Lleoliad:
Castell-nedd Port Talbot
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£3300.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

Yn ystod pandemig Covid-19, roedd llawer o bobl hŷn nid yn unig yn ynysig ac yn unig, ond yn ofnus ac yn ddryslyd.
Er mwyn estyn allan a dangos cefnogaeth yn enwedig i'r rhai a oedd yn wynebu treulio tymor yr ŵyl yn unig, roedd angen i Age Concern Castell-nedd Port Talbot (ACNPT) weithredu'n gyflym gydag un weithred syml o garedigrwydd - bag defnydd bach i gynnwys rhai eitemau bwyd, anrhegion bach, cardiau ac addurniadau a negeseuon gan blant ysgol lleol i helpu i godi ysbryd.  Roedd hyn hefyd yn rhoi cyfle olaf i ACNPT, cyn y gwyliau, i'w gwirfoddolwyr gynnal gwiriadau llesiant ar garreg y drws ar yr un pryd â rhoi'r bagiau.

Yna, roedd gwirfoddolwyr yn gallu codi unrhyw bryderon, fel y gallai preswylwyr oedrannus, pe bai angen, gael eu hatgyfeirio neu eu cyfeirio at y gwasanaeth/gwasanaethau priodol.  Argraffwyd y bagiau gyda manylion cyswllt ACNPT arnynt mewn print bras iawn, a chafodd cylchlythyr ei gynnwys yn y bag hefyd, a oedd yn nodi manylion y gwasanaethau a oedd ar gael drwy ACNPT.

Beth gyflawnodd y prosiect?

Roedd y prosiect hwn yn syniad 'gorchwyl a gorffen', a ddeilliodd o'r ofn a'r unigrwydd a achoswyd gan bandemig Covid19 a’r cyfyngiadau symud a gwarchod dilynol i'r rhai sy'n agored i niwed a phobl dros 70 oed.  Y fantais tymor byr oedd codi ysbryd trigolion a oedd yn treulio'r Nadolig yn unig a'u sicrhau ein bod yn meddwl amdanynt. Dywedodd llawer o wirfoddolwyr fod preswylwyr yn beichio wylo neu'n eithaf emosiynol pan sylweddolon nhw fod rhywun yn cofio amdanynt. Y fantais hirdymor i'r preswylwyr bregus hyn yw eu bod bellach yn ymwybodol ei bod yn hawdd cysylltu â ni a’n bod yn gyfeillgar os bydd angen ein cefnogaeth arnynt yn y dyfodol.

Argraffwyd ein rhif ffôn mewn ffont fawr iawn ar y bag felly mae hyn i'w weld yn glir os bydd angen iddynt ein ffonio. Gan nad ydym yn gwybod o hyd pa mor hir y bydd y cyfyngiadau ar waith, gall y rhif ffôn hwn fod yn achubiaeth i'r rhai nad oes ganddynt unrhyw gymorth teuluol.

Yr adborth sy'n deillio o hynny gan drigolion a grwpiau cymunedol yw ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer y gwirfoddolwyr newydd sy'n cynnig helpu ers dechrau mis Ionawr.  Nid ydym wedi hysbysebu am wirfoddolwyr newydd mewn gwirionedd, cawsant wybod amdanom ar lafar o ganlyniad i'r prosiect hwn.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?  

Er gwaetha’r prinder amser, cyflawnodd y prosiect hwn ei amcanion i ymweld â 1000 o drigolion oedrannus, dosbarthu bagiau anrhegion a chynnal archwiliadau lles ar stepen y drws cyn gwyliau'r Nadolig.  Wrth edrych yn ôl dylem fod wedi rhoi mwy o amser i ni'n hunain ond roedd y gefnogaeth gan wirfoddolwyr yn golygu bod y prosiect yn llwyddiant ysgubol.  Roedd y preswylwyr yn hynod ddiolchgar ac roedd llawer yn amlwg yn emosiynol wrth dderbyn y bagiau anrhegion.

Mae llawer o breswylwyr wedi dweud bod y negeseuon gan y plant yn galonogol ac wedi gwneud iddynt wenu.  Teimlwn, oherwydd yr argyfwng digynsail hwn lle'r oedd llawer o drigolion bregus a'r henoed yn ofnus ac yn unig, ei fod yn brosiect gwerth chweil ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol i gyd.

Roeddem yn gallu rhoi bagiau i grwpiau gwirfoddol eraill i'w dosbarthu sydd wedi arwain at gynnydd mewn mwy o breswylwyr a theuluoedd sy'n dangos diddordeb mewn cael gafael ar y gwasanaethau a restrwyd yn ein cylchlythyr (a gynhwyswyd yn y bag rhoddion) – pethau fel ein gwasanaeth torri ewinedd, gwiriadau budd-daliadau lles ac ysgrifennu ewyllys, yn ogystal â phobl sy'n dal i ofyn am gymorth gyda siopa a gwneud negesi dyddiol.

Pwy oedd Buddiolwyr y Prosiect?

Preswylwyr a gafodd yr ymweliad lles a'r bag rhoddion.
Mae gwirfoddolwyr wedi elwa ar wybod bod eu gweithredoedd a'u gwaith caled wedi cefnogi llawer o'n trigolion oedrannus, ynysig yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Beth oedd y prif wersi a ddysgwyd o’r prosiect?

  • Yn ddi-os, y broblem fwyaf oedd diffyg amser, er i'r holl amcanion gael eu cyflawni.
  • Trefnu gwirfoddolwyr o ran diogelwch covid.
  • Er gwaethaf addewidion o gymorth, nid oedd rhai sefydliadau mor barod ag yr oeddem wedi gobeithio y byddent wreiddiol.

Dyma'r tro cyntaf i ni gynnal prosiect gydag amserlen mor dynn ac roedd bob amser yn mynd i fod yn gromlin dysg! 
Pe bawn yn ymgymryd â phrosiect fel hwn eto, byddai angen i'r gwaith cynllunio a pharatoi ddechrau fisoedd ymlaen llaw.  Roeddem i gyd yn hapus gyda'r canlyniad ond roedd y cyfnod cyn y Nadolig, a phryderon Covid-19, a rhuthro i gyrraedd 1000 o drigolion mewn 3 wythnos, wedi golygu bod llawer o staff a gwirfoddolwyr wedi blino'n lân.

Roedd y Llywodraeth yn tynhau'r cyfyngiadau hyd yn oed ymhellach cyn y Nadolig a olygodd fod yn rhaid i ni ddweud wrth wirfoddolwyr i roi'r gorau i'r gwaith, ond gyda lwc roedd y rhan fwyaf, os nad pob ymweliad, wedi'u cwblhau erbyn hynny.  Unwaith eto, byddai rhoi mwy o amser i ni'n hunain wedi caniatáu ar gyfer amgylchiadau annisgwyl.

Roeddem wedi defnyddio’r ganolfan gymunedol i bacio a dosbarthu bagiau ond nid ni oedd yr unig rhai a oedd yn ei defnyddio, felly roedd yn rhaid i ni symud bagiau o ystafell i ystafell – pe byddem yn rhedeg unrhyw beth fel hyn eto byddem yn sicrhau bod y ganolfan ddosbarthu at ein defnydd ni'n unig.

Cawsom restrau gan sefydliadau eraill o breswylwyr a fyddai'n elwa ar dderbyn bag ac roedd rhai o'r preswylwyr hyn eisoes wedi derbyn bag gennym ni.  Roedd y diffyg amser digonol yn golygu nad oeddem yn gallu gwirio'r holl restrau a oedd yn dod i mewn yn ein herbyn rhain ein hunain, gan arwain at rywfaint o ddyblygu.

Casglu tystiolaeth ar gyfer Dangosyddion Perfformiad: gwnaed cymaint o weithgarwch ddi-stop yn ystod y rhan fwyaf o'r tair wythnos gyda'r flaenoriaeth ar ddosbarthu'r bagiau. Rydym yn cydnabod y dylem fod wedi cadw llygad mwy barcud ar y dangosyddion perfformiad oherwydd gallem fod wedi gorgyflenwi'n hawdd ond roedd y pwysau i lenwi a darparu 1000 o fagiau mewn 3 wythnos yn rhy drwm.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich prosiect?

Mae ein gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi i wrando ar bobl hŷn a'u cefnogi. Gallant roi cyngor ar ystod eang o faterion neu wrando, sgwrsio a bod yn ffrind i'r bobl oedrannus fwyaf agored i niwed yn ein wardiau gwledig.   

Gall ACNPT gyfeirio neu atgyfeirio preswylwyr at sefydliadau eraill, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol pe bai'r angen yn codi.  Bydd ein holl wirfoddolwyr yn parhau i fod yn weithgar yn y gymuned ac, ar ôl Covid, gan helpu'r unigolion hynny i oresgyn eu pryder am fentro y tu allan.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Dean Richards
Rhif Ffôn:
01639 617333
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.acnpt.org.uk
Cyfryngau cymdeithasol: