Lleoliad:
Bro Morgannwg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£5850.97

Disgrifiad o'r prosiect:

Roedd y prosiect yn cynnwys ‘galwad agored’ i ddarparwyr gweithgareddau i dreialu gweithgareddau a oedd yn gwneud y canlynol:

1.     Gweithgareddau i rieni a phlant gyda’i gilydd
Cynnig cyfleoedd i rieni / gwarcheidwaid i wneud gweithgareddau hamdden / ffitrwydd gyda’u plant, er mwyn cryfhau’r clymau yn y teulu ac i annog y ddwy genhedlaeth i wneud gweithgareddau newydd.
2.     Gweithgareddau i rieni a phlant ochr yn ochr

Cynnig cyfleoedd i blant a rhieni / gwarcheidwaid i wneud gweithgareddau ar wahân ond yn yr un lle ar yr un pryd.  Byddai hynny’n golygu bod modd defnyddio’r amser pryd nad yw'r rhieni’n gwneud dim, a chael gwared ar rwystrau gofal plant.

Y Broses
Galw allan i ddarparwyr gweithgareddau

Cynhaliwyd ‘galwad agored’ i unrhyw ddarparwyr gweithgareddau rhwng Awst a Rhagfyr 2017, i’w gwahodd i gymryd rhan yn y prosiect ac i gynnal gweithgareddau yn y cymunedau targed.  Gosodwyd erthyglau golygyddol a hysbysebion yn y Gen, yn ogystal â rhoi postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd yr alwad allan yn gwahodd darparwyr gwasanaethau i benderfynu a oeddent am gynnal gweithgareddau i rieni a phlant gyda’i gilydd ynteu ochr yn ochr pryd byddent yn gwneud gweithgareddau gwahanol.
Daeth 33 o ymholiadau ac 17 o ddatganiadau o ddiddordeb erbyn y dyddiad cau yn Rhagfyr 2017.  Rhoddwyd sgôr i bob datganiad o ddiddordeb.

Hefyd, roedd rhaid i bob darparwr gweithgareddau ddarparu gwiriad DBS cyfoes, dogfennau yswiriant, geirdaon ac unrhyw achrediadau (os oedd hynny’n briodol).

  • Rhoddwyd y datganiadau o ddiddordeb ar y rhestr fer i wahodd 11 o ddarparwyr gweithgareddau i gymryd rhan yn y prosiect.  Roedd yr holl ddarparwyr gweithgareddau yn cynnig cynnal gweithgareddau i rieni a phlant gyda’i gilydd, yn hytrach nag ochr yn ochr.
  • Sefydlu ‘Dyddiadau Diwrnod Allan’
  • Roedd llawer o waith i'w wneud i sefydlu menter newydd ac i gydlynu’r darparwyr gwasanaethau.
  • Sefydlu tocynnau ar-lein 
  • Cafwyd dyfynbrisiau gan ddau gwmni tocynnau ar-lein, sef Ticketsource ac Eventbrite, i weld pwy fyddai’n darparu'r gwerth mwyaf am arian am y gwasanaeth archebu ar-lein.
  • Datblygu Rhwydwaith Darparwyr Gwasanaethau
  • Cafodd pob darparwr gweithgareddau wybod eu bod wedi’u dewis i ymuno â’r cynllun peilot yn Rhagfyr 2017, a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf o'r Rhwydwaith ddydd Mercher 24 Ionawr 2018.
  • Rhaglen weithgareddau

Trefnwyd bod y rhaglen weithgareddau yn cael ei chynnal rhwng Ebrill 2018 a Hydref 2018.  Roedd mwy o’r gweithgareddau a oedd yn cael cyllid llawn wedi cael eu cynnal yn ystod tymor yr haf. Os oedd gweithgareddau’n boblogaidd, y nod oedd i’r gweithgareddau barhau yn ystod y cynllun peilot a chael yr incwm o'r gweithgaredd.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Amcan y prosiect oedd treialu amrywiaeth o weithgareddau i rieni a phlant gyda’i gilydd, wedi’u targedu at blant oedran ysgol (4 i 8 oed) a’u rhieni / mam-gu a thad-cu / gofalwyr.  Roedd y prosiect yn targedu gweithgareddau mewn pedair cymuned lle buwyd yn mapio, sef Sain Tathan, Gwenfô, Y Rhws ac Ystradowen.

Cafodd y Prosiect Rhieni a Phlant Gyda’i Gilydd ei ariannu dan y Thema ‘Cymunedau’n Esblygu’ drwy helpu i archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau, gweithgareddau a rhwydweithiau.  Cafodd y prosiect ei gymeradwyo gan y Grŵp Gweithredu Lleol ym mis Mai 2017.

Daeth y syniad am y prosiect drwy'r gwaith mapio cymunedol, pryd rhoddodd trigolion y pedair cymuned (Sain Tathan, Gwenfô, y Rhws ac Ystradowen) adborth am brinder gweithgareddau mewn ardaloedd gwledig i blant ac oedolion.  Teimlai rhai rhieni na allent gymryd rhan yn y gweithgareddau oherwydd cyfyngiadau gofal plant.  Roedd y prosiect yn galluogi'r rhieni i wneud gweithgareddau gyda’u plant oedran ysgol.

Roedd y prosiect yn cynnig cyfle i dreialu ffyrdd newydd o farchnata’r hyn sy'n mynd ymlaen yn y gymuned oherwydd bod prinder gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn yr ardal yn broblem a godwyd yn y prosiect mapio cymunedol.

Pwy yw buddiolwyr y prosiect?

Cymunedau a theuluoedd mewn pedair ardal ym Mro Morgannwg.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?  

Cymysg oedd yr ymateb i'r gweithgareddau.  Roedd y gweithgareddau a oedd yn digwydd unwaith yn fwy poblogaidd na’r gweithgareddau a oedd yn gofyn am ymrwymiad dros 6 wythnos.

Gweithgaredd Ysgol y Goedwig oedd fwyaf poblogaidd oherwydd dyma weithgaredd sy’n ffasiynol iawn ar hyn o bryd ac mae’n rhywbeth fymryn yn wahanol i’r hyn y mae rhieni’n cael cyfle i'w wneud gyda’u plant fel arfer.  

£1,209.10 oedd cyfanswm yr incwm a gafwyd gan Ticketsource am y gweithgareddau.  

Roedd yr holl gwsmeriaid yn cael eu harwain at wefan Cyngor Bro Morgannwg i’r dudalen Dyddiadau Diwrnod Allan, lle roedd crynodeb o’r holl weithgareddau.  Roedd dolen yn mynd o'r dudalen hon i Ticketsource i archebu'r gweithgaredd. Roedd rhagor o fanylion ar gael ar Ticketsource, gan gynnwys amseroedd, dyddiadau, lleoliadau a chostau.

Unwaith roedd cwsmer wedi archebu lle mewn gweithgaredd, roeddent yn cael cadarnhad gan Ticketsource o'r archeb, yn nodi cyfeirnod, pwy archebodd, crynodeb o'r archeb (digwyddiad, lleoliad, dyddiad, adran) a phris y tocyn.  Roedd neges e-bost yn cael ei hanfon at y cwsmer i'w atgoffa ar ddiwrnod y gweithgaredd.  Gallai’r defnyddwyr archebu gweithgareddau ar-lein gan ddefnyddio unrhyw ddyfais symudol.  Gallent lawrlwytho e-docyn hefyd.

Roedd darparwyr y gwasanaethau’n derbyn adroddiad yn dweud faint o bobl oedd wedi archebu lle yn eu gweithgaredd.  Ar ddiwedd y gweithgaredd, roedd neges e-bost arall yn cadarnhau faint o arian a gafwyd o werthu tocynnau.

Beth nesaf i’ch prosiect chi?

Roedd y system archebu ar-lein yn ffordd effeithiol o drefnu archebion.  Mae swyddogion Cymunedau Gwledig Creadigol wedi trafod y system gyda Thîm Dysgu Oedolion Bro Morgannwg i archwilio a allent ei defnyddio ar gyfer eu harchebion nhw.

Er na fyddai Cymunedau Gwledig Creadigol yn cymryd rhan mewn unrhyw ddarpariaeth gweithgareddau yn y dyfodol, mae’n bosibl i addysg yn y gymuned gynnig rhai gweithgareddau i rieni a phlant fel sesiynau unigol.  Gallai'r presenoldeb fod yn uwch oherwydd y brand adnabyddus a’r dilyniant ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Beth fu'r heriau mwyaf?

Presenoldeb yn y gweithgareddau

Roedd y bobl a gymerodd ran yn y gweithgareddau wedi mwynhau’n fawr, ond roedd y niferoedd yn is na’r disgwyl.  Gallai hyn fod oherwydd bod bywydau prysur gan deuluoedd.  Efallai fod y gweithgareddau ar y nosweithiau neu'r amseroedd anghywir. 

Efallai fod rhieni’n mwynhau cael amser i ymlacio tra mae eu plant yn gwneud gweithgareddau.

Cafwyd niferoedd uwch yn cymryd rhan yn y gweithgareddau a oedd fymryn yn wahanol (e.e. Ysgol y Goedwig, Gwydr Lliw a Sgiliau Syrcas) i weithgareddau y gallai’r plentyn fod yn ei wneud eisoes (e.e. dawns) neu a allai eu gwneud gartref gyda’r rhiant (coginio).

Nod y prosiect oedd darparu amrywiaeth o weithgareddau, a allai fod yn hunangynhaliol.  Er bod pris y gweithgareddau’n rhesymol iawn, gallai ymddangos yn ddrutach gan fod y rhieni’n gorfod prynu tocyn i’r rhieni a’r plant.  Efallai fod ganddynt ddigon o arian i gefnogi gweithgareddau eu plant, ond byddai’n well ganddynt beidio â gwneud y gweithgareddau eu hunain.

Ardal darged / grŵp oedran y gweithgareddau

Efallai y byddai mwy wedi cymryd rhan petai'r gweithgareddau wedi cael eu cynnal mewn cymunedau eraill yn ardaloedd gwledig y Fro.  Efallai y byddai'r gweithgareddau wedi bod yn fwy poblogaidd yn y Bont-faen a Llanilltud Fawr lle mae mwy o boblogaeth yn y dalgylch.

Her hefyd oedd penderfynu ar oedran targed pob gweithgaredd.  Mae’n ymddangos fod plant, ar ôl iddynt fynd i'r ysgol uwchradd, eisiau annibyniaeth oddi wrth eu rhieni felly roedd y gweithgareddau’n llai addas ar gyfer plant 11+.

Darparwyr y gwasanaethau

Roedd hi'n anodd cadw’r momentwm gyda darparwyr y gwasanaethau pan nad oedd y gweithgareddau wedi cael niferoedd da.  Roedd bron eu hanner wedi gadael y gweithgareddau erbyn diwedd Gorffennaf oherwydd niferoedd isel yn y gweithgareddau. Hefyd, roedd hi’n anos cael pobl i ddod i Gyfarfodydd Rhwydweithio Darparwyr y Gwasanaethau.  Negeseuon e-bost uniongyrchol oedd y brif ffordd o gyfathrebu â darparwyr y gwasanaethau.

Archebu ar-lein
Bu Ticketsource, y system archebu ar-lein, yn system effeithlon a hawdd i ddarparwyr y gwasanaethau a’r cyfranogwyr.  Ond gan fod dolenni archebion wedi’u gwneud o’r dudalen Dyddiadau Diwrnod Allan ar wefan y Cyngor, roedd fymryn yn fwy o waith i bobl na’u cyfeirio’n syth i'r dudalen archebu ar Ticketsource.  Gwnaethpwyd hyn er mwyn gallu hyrwyddo'r holl weithgareddau gyda’i gilydd.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Hannah Dineen
Rhif Ffôn:
01446 704226
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/working/Rural-Communities/Date-Days.aspx