Lleoliad:
Castell-nedd Port Talbot
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£100000.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

Amcan cyffredinol y prosiect yw datblygu galluoedd gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol iddynt allu cymryd rhan mwy amlwg yn y gwaith o reoli safleoedd lleol gan feithrin hefyd ddealltwriaeth a chysylltiad dyfnach â’r amgylchedd naturiol. 

Beth wnaeth y prosiect ei gyflawni?

Ymunodd 39 o bobl â’r rhwydwaith o wirfoddolwyr dros gyfnod y prosiect.  Rhoddwyd hyfforddiant iechyd a diogelwch iddynt yn ogystal â hyfforddiant ar sut i ddefnyddio arfau’n ddiogel cyn eu rhoi i wneud gwaith rheoli ymarferol ar safleoedd natur ledled y fwrdeistref. Drwy hynny, cawsant ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad fydd yn eu galluogi i symud i weithio i’r sector cadwraeth. 
Cafodd hyfforddiant wedi’i achredu a heb ei achredu ei gwblhau gan amrywiaeth o gyfranogwyr, gan gynnwys hyfforddiant ar adnabod coed, rheoli cynefin a defnyddio arfau’n ddiogel. Roedd yr hyfforddiant yn agored i wirfoddolwyr a chyfranogwyr i wella’u sgiliau, gwybodaeth a phrofiad i ennill swyddi. 

Mae rhwydwaith o safleoedd yn cael eu rheoli at ddiben cadwraeth natur ac i’w gwneud yn hygyrch i’r gymuned.  Cafodd swyddogion y prosiect weithio mewn 17 o safleoedd gwahanol dros gyfnod y prosiect. Roedd angen mwy o waith ar rai safleoedd nag ar eraill a chafodd mwy o amser ei dreulio ynddynt.  Fodd bynnag, gwelwyd gwelliant aruthrol mewn nifer o safleoedd, o safbwynt ecolegol ac o safbwynt defnydd a hygyrchedd y gymuned. 

Cafodd gwelliannau mawr eu gwneud yng Ngwarchodfa Natur Leol (GNL) Glyn Cwm Du a Phlanhigfa Glan-rhyd ym Mhont-ar-dawe trwy ddifa rhywogaethau estron a chreu cyfleusterau ychwanegol gan gynnwys stafell ddosbarth yn y coed a llwybrau. Cafodd gwaith ei wneud i wella cynefinoedd ac agweddau hanesyddol y safle, gan gynnwys dadorchuddio a ffensio pwll nofio awyr agored cynta’ Cymru. 

Cafodd gwaith mwy sylfaenol ei wneud ar safleoedd eraill, gan ganolbwyntio ar wella cynefin a hygyrchedd.  Yn nolydd a gelltydd Banwen, dau safle ym mhen ucha’r sir, cafodd stafell ddosbarth lai yn y coed a llwybr newydd trwy’r coed eu creu, a gwaith i reoli tyfiant coed mewn dol wlyb werthfawr. 

Beth oedd canlyniad eich prosiect?  

Roedd dwy o themâu Leader yn gysylltiedig â Cham 3 y cais: ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol a chwilio am ffyrdd newydd i ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol. 

Gwireddwyd y cyntaf trwy gydweithio â chymunedau lleol ledled CNPT gan ganolbwyntio ar newid ymddygiad trwy wella gwerthoedd a chodi ymwybyddiaeth gan feithrin y gred bod pobl yn gallu gwneud gwahaniaeth i ansawdd eu hamgylchedd lleol. Cafodd digwyddiadau hamdden, addysgol ac ymarferol, gan gynnwys rhai ecolegol, hanesyddol a diwylliannol, eu cynnal i roi amrywiaeth o sgiliau, profiadau a gwybodaeth i gymunedau. O gysylltu hynny â gwella hygyrchedd ac amwynderau’r safle, llwyddwyd i wireddu’r nod hwn. 

Roedd yr ail amcan yn canolbwyntio ar ffyrdd o wella galluoedd ac ennyn diddordeb grwpiau lleol er mwyn iddynt allu cymryd rhan fwy amlwg yn y gwaith o ofalu am safleoedd. Roedd hyn yn fwy o her ar safleoedd oedd heb grwpiau eisoes. Ond cafodd y rheini oedd â grwpiau eu helpu i gymryd cam i’r cyfeiriad iawn a dod yn gyfrifol am eu rheoli. Roedd cyfraniad ffrindiau Craig Gwladus yn nyddiau cynnar y prosiect yn fawr ond oherwydd maint y safle, cafodd swyddog prosiect newydd ei gyflogi er mwyn i’r gwaith allu para ar ôl Gweithio gyda Natur. Mae nifer o unigolion wedi ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb gan riportio digwyddiadau a chynnal mân welliannau (tocio llwybrau ac ati) sy’n golygu nad oes angen i swyddogion y cyngor fynd i’r safle mor aml. 

Mae codi ymwybyddiaeth am y safleoedd sy’n perthyn i’r prosiect a chynyddu eu gwerth wedi dod â budd mawr i’r gymuned a’r cyngor, gan olygu bod sylw mwy penodol yn gallu cael ei roi ar safleoedd a llwybrau i sicrhau bod ardaloedd addas yn cael eu cynnal at ddefnydd y cyhoedd. 

Pwy fydd yn elwa ar y Prosiect? 

Cafodd dros 800 o unigolion a nifer o grwpiau a mudiadau gymryd rhan yn y prosiect. Gwnaeth ysgolion elwa yn sgil codi’u hymwybyddiaeth a chael defnyddio mannau awyr agored ar gyfer eu haddysg, ac mae mudiadau sydd wedi cydweithio â’r prosiect wedi elwa hefyd, gan gynnwys llyfrgelloedd lleol a gyd-drefnodd digwyddiadau i blant. 
Mae llwyddiant y prosiect a chyfuno iechyd, lles ac ecoleg wedi dod â budd i holl bobl CNPT gan ddangos y potensial i gefnogi iechyd trigolion trwy ddefnyddio gweithgareddau a safleoedd natur. 

Beth yw prif wersi’r prosiect?

Y broblem fwyaf oedd yn ein hwynebu oedd ceisio sicrhau canlyniad cynaliadwy ar gyfer safleoedd oedd heb grŵp cymunedol yn gysylltiedig â nhw.  Roedd yn amhosibl creu grwpiau o’r fath o fewn yr amserlen.  Fodd bynnag, gyda rhwydwaith cryf o 39 o wirfoddolwyr, roedd modd gwneud gwaith rheoli a gwella effeithiol a llwyddiannus ar bob safle y gwnaethom weithio arno. 

O edrych yn ôl, gallem fod wedi canolbwyntio ar nifer llai o safleoedd a llunio cynlluniau penodol ar eu cyfer dros oes y prosiect, cael mwy o amser i weithio arnynt, ennyn mwy o sylw cymunedau a pharatoi strategaeth reoli ar gyfer y cyfnod ar ôl y prosiect.  Trwy weithio ar 17 o safleoedd, er inni gyrraedd mwy o gymunedau, roedd gennym lai o amser i’w dreulio ymhob un.  Efallai y byddai’n syniad da i brosiectau’r dyfodol dargedu 3-5 o safleoedd ar draws y sir fel ‘prif safleoedd’ ar gyfer denu defnyddwyr. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Rebecca Sharp
Rhif Ffôn:
01639 686149
Email project contact