Lleoliad:
Castell-nedd Port Talbot
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£34646.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

Bydd y prosiect hwn yn helpu plant a rhieni i ddeall nad oes angen i chwarae gostio ceiniog, y gellir ei wneud beth bynnag fo’r tywydd ac nad oes angen iddo gynnwys defnyddio sgriniau!  Mae pedwar Gweithiwr Chwarae Cymunedol yn cael eu recriwtio i weithio gydag ysgolion er mwyn ymgymryd â phrosiect gwella chwarae.

Bydd y gweithwyr chwarae yn cefnogi ac yn ymestyn chwarae plant drwy weithredu mewn pryd i ymyrryd â syniadau, awgrymiadau a chefnogaeth. Byddant yn annog defnyddio offer a rhannau rhydd (eitemau sothach a ddefnyddir ar gyfer chwarae) yn ddiogel o ac yn gweithio gydag Arwyr Chwarae (plant o flynyddoedd 5/6 a benodir yn rhai sy'n gwella chwarae) ac o fewn y gymuned leol i gynnig sesiynau chwarae mewn digwyddiadau allgymorth i wella dealltwriaeth o chwarae a manteisio ar gyfleoedd chwarae.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Nod y prosiect oedd cyflogi Gweithwyr Chwarae Cymunedol cymwysedig a phrofiadol i weithio yn ystod amserau cinio ysgolion, gan sicrhau bod y plant yn cael mynediad uniongyrchol at weithiwr chwarae proffesiynol ac y byddent yn gallu cael sesiynau chwarae gwerth chweil. Byddai gwybodaeth y Gweithwyr Chwarae yn cael ei throsglwyddo i staff presennol amserau cinio a fyddai, yn eu tro, yn cael gwell dealltwriaeth o chwarae a'i fanteision.  Dewiswyd pedair ysgol i gymryd rhan yn y prosiect hwn.  Roedd y Gweithwyr Chwarae hefyd yn anelu at weithio o fewn cymunedau i rannu gwybodaeth gyda grwpiau/rhieni a gofalwyr.  
Byddai Pecyn Cymorth Chwarae, a oedd yn cynnwys elfen hyfforddi, yn cael ei gynhyrchu er mwyn rhannu'r cynllun hwn ag ysgolion eraill.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?  

Llwyddiannau strategol:  

  • Aeth y gweithwyr chwarae â phlant allan i'r gymuned a'r amgylchedd naturiol a'u hannog i chwarae gydag adnoddau naturiol – i ddefnyddio pethau natur fel brigau a dail i greu gemau dychmygus.
  • Gwnaethom nodi gwasanaethau a fyddai'n elwa ar ymgysylltu â'r gymuned ond oherwydd y cyfyngiadau nid oeddem yn gallu datblygu unrhyw grwpiau gweithredu cymunedol.
  • Bwriedir cynnal sesiynau hyfforddiant a gwahoddir cynrychiolwyr o bob ysgol i adeiladu ar eu sgiliau chwarae unwaith y bydd y cyfyngiadau'n llacio.

Yn gyffredinol, cafodd y prosiect hwn ymateb cymysg. Roedd gan bob ysgol ei ffordd ei hun o gefnogi'r prosiect ac roedd rhai yn cymryd rhan yn fwy nag eraill. Roedd yn ymddangos bod yr ysgolion a oedd fwyaf cyfathrebol ac a oedd yn fodlon cymryd rhan yn y broses recriwtio yn elwa mwy ar y prosiect.  Nid oedd un ysgol wedi ymwneud yn arbennig â'r prosiect ac roedd hyn yn heriol. 

Dwy ysgol, yn benodol, a elwodd fwyaf ar y prosiect – gwnaethant ymdrech i gefnogi a chynnwys eu Gweithwyr Chwarae drwy eu cynnwys yn yr agweddau o ddydd i ddydd ar fywyd yr ysgol a gwneud iddynt deimlo'n rhan o dîm yr ysgol. 

Cynnwys y plant yn y broses recriwtio.  Trefnodd y PDO i'r plant fod yn rhan o'r broses gyfweld.  Roedd hyn yn hyrwyddo safonau cyfranogiad, lle mae'n rhaid cynnwys plant mewn materion yn ymwneud â hwy, a olygai fod ganddynt lais yn y penderfyniad terfynol. 

Cefnogwyd/amlygwyd chwarae: Hyrwyddwyd chwarae o fewn yr ysgolion a rhoddwyd llwyfan iddo. 

Mae dau Weithwyr Chwarae bellach yn weithwyr Chwarae Rhyddhad gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Cymerodd un Gweithiwr Chwarae ran mewn prosiect arall a ariannwyd gan grant fel Gweithiwr Chwarae am 20 awr yr wythnos.
Roedd y ffordd yr oedd y plant yn ymateb i'w Gweithiwr Chwarae wedi creu cymaint o argraff ar un ysgol, fel bod y Gweithiwr Chwarae wedi cael cynnig rôl barhaol yn yr ysgol.

Pwy oedd Buddiolwyr y Prosiect?

  • Plant
  • Goruchwylwyr amser cinio
  • Ysgolion
  • Rhieni/Gofalwyr/Gwarcheidwaid
  • Gwirfoddolwyr
  • Sefydliadau cymunedau lleol
  • Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot
  • Gweithwyr Chwarae Cymunedol
  • Teuluoedd

Beth oedd y prif wersi a ddysgwyd o’r prosiect?

Byddai ymestyn hyd y prosiect i ystyried amser ar gyfer recriwtio a hyfforddi yn ystyriaeth allweddol. Nid oeddem wedi rhagweld y byddai cymaint o amser yn mynd heibio rhwng hysbysebu'r swydd a’r ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau yn ei swydd.

Llunio Contract Ymgysylltu mwy ffurfiol â'r ysgolion.  Roedd rhai ysgolion wedi gwneud llawer mwy o ymdrech nag eraill o ran cynhwysiant ac ymrwymiad i'w Gweithiwr Chwarae.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich prosiect?

Yn anffodus, mae sefyllfa COVID19 wedi cael effaith ddramatig ar y prosiect. Roeddem wedi gobeithio ymgymryd â hyd at flwyddyn academaidd o waith ym mhob ysgol a chymuned leol ac wrth wneud hyn rhagwelwyd y byddai plant, rhieni a grwpiau cymunedol yn dechrau gwerthfawrogi'r gweithiwr chwarae fel aelod pwysig o'r gymuned - a fyddai yn ei dro yn gwella'r gobaith o'r gymuned neu'r ysgol yn cymryd perchnogaeth o'r prosiect mewn rhyw ffordd.

Fodd bynnag, mae rhywfaint o etifeddiaeth i'r prosiect. Bydd yr adnoddau a brynir yn aros gyda'r ysgolion, a phan fo'n bosibl, bydd y PDO yn dychwelyd i ymgymryd â hyfforddiant gyda staff presennol yr ysgol i roi'r ddealltwriaeth iddynt o chwarae er mwyn gallu eu cefnogi yn yr ysgol fel rhan o'u rolau presennol. 

Rydym yn dal i gynllunio i greu fideo sy'n dangos sut y gall chwarae fod yn rhan annatod o fywyd yr ysgol ac i ddangos gwerth cyflogi gweithiwr chwarae i ysgolion – fodd bynnag, ni ellir gwneud hyn nes bod y cyfyngiadau symud a chyswllt, oherwydd y pandemig, yn llacio.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Sophie Wright
Rhif Ffôn:
01639 873009
Email project contact