Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£38728.00

Mae ymwrthedd anthelmintig wedi bod yn broblem gynyddol ers nifer o flynyddoedd sy’n cael effaith sylweddol ar gynaladwyedd cynhyrchiant cig oen a chig gafr. Mae defaid a geifr yn cario’r un nematodau yn y perfedd (GI). Nid oes cyfradd dosio ar gyfer triniaeth anthelmintig mewn geifr wedi cael ei gyhoeddi, ac ar hyn o bryd mae wedi cael ei gymryd yn ganiataol ei fod yn debyg i gyfraddau defaid neu wartheg. Mae gallu rhywogaethau geifr i fetaboleiddio tocsinau yn gyflymach na defaid, ac o bosib gwartheg, yn golygu y gallai hyn hybu ymwrthedd anthelmintig o fewn y gyr, gan ddilyn at leihad mewn effeithlonrwydd y cyffur yn erbyn llyngyr ar draws y rhywogaeth.

Mae pedwar o ffermwyr geifr ar draws canolbarth a de Cymru wedi dod at ei gilydd yn y prosiect dwy flynedd yma i sefydlu datrysiad technegol i’r diffyg gwybodaeth ynglŷn â’r cyfraddau cywir ar gyfer geifr. Caiff hyn ei fesur gan ddefnyddio profion cyfrif wyau ysgarthol (FEC) cyn trin y geifr ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, a phe byddai angen triniaeth, profi FEC eto ar ôl driniaeth.

Dylai hyn rhoi syniad o’r arfer orau ar gyfer triniaeth llyngyr gan sefydlu cyfradd dosio fwy effeithiol ar gyfer geifr cig er mwyn rhannu gyda’r diwydiant ehangach. Gallai arferiad dosio mwy effeithiol gynyddu cyfraddau ennill pwysau'r anifail gan leihau’r amser hyd lladd. Os mae bwyta cig gafr yn mynd yn fwy poblogaidd, mae’n bosib bydd cynlluniau pellach ar gyfer gofal iechyd da byw yn datblygu.

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Jeremy Bowen-Rees
Email project contact