Lleoliad:
Ceredigion
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39750.00

Bydd y prosiect yn gweithio gyda thri ffermwr llaeth yng Ngheredigion. Bydd pob un o’r ffermwyr yn gweithio gyda hyd at bedwar grŵp o stoc ifanc (<24 mis). Dros blynyddoedd diwethaf mae’r ffermwyr sy’n rhan o’r prosiect wedi sylweddoli bod baich parasitiaid yn eu stoc ifanc yn effeithio ar gyfraddau twf a pherffomiad. Cafwyd pryderon ynglŷn ag effeithlonrwydd y triniaethau llyngyr a ddefnyddiwyd, a ph’un a fyddai mathau penodol o barasitiaid yn datblygu ymwrthedd i driniaethau.

Mae defnyddio samplau cyfrif wyau ysgarthol (FEC) yn llawer llai cyffredin mewn systemau gwartheg o’i gymharu â defaid, ac mae’n hanfodol er mwyn rheoli’r broblem yn effeithiol. Nod y prosiect yw gweld sut allai defnyddio cyfuniad o brofion FEC, gan ddefnyddio technoleg FECPAKG2, profion ymwrthedd, profion rhywogaethau a modelau rhagfynegol wella rheolaeth llyngyr mewn stoc ifanc ar ffermydd llaeth drwy:

  • Wella’r dull o ganfod llyngyr mewn stoc ifanc, yn enwedig ar lefel is-glinigol
  • Canfod ymwrthedd presennol i driniaeth anthelminitig (triniaeth llyngyr) / statws effeithiolrwydd ar bob un o’r tair fferm
  • Canfod rhywogaethau’r baich parasitiaid a’r fethodoleg rhywogaethu fwyaf addas
  • Arafu datblygiad ymwrthedd anthelminitig mewn poblogaethau llyngyr
  • Dilysu model sy’n rhagweld ym mha gae mae’r baich llyngyr ar ei uchaf
  • Darparu gwybodaeth ar gyfer datblygu strategaethau i reoli llyngyr ar y fferm
  • Gwella iechyd y stoc ifanc a sicrhau gwell cynnydd pwysau byw

Trwy ddysgu pa rywogaethau llyngyr sy’n bresennol o fewn y stoc, bydd posibl eu targedu’n benodol yn hytrach na thrin pob anifail yn yr un modd. Gobeithio y bydd hyn yn lleihau’r defnydd o anthelminitigau yn ogystal ag arafu datblygiad unrhyw ymwrthedd o fewn gwahanol rywogaethau llyngyr. Bydd y prosiect hwn yn helpu i fonitro datblygiad ymwrthedd a darparu arweiniad clir ac ymarferol ar gyfraniad posibl ffermwyr bîff a llaeth i leihau’r risg.

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Tony Little
Email project contact