Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£14980.00

Crynodeb o’r prosiect: 

Nod cyffredinol y prosiect Lleihau Gwastraff Bwyd oedd codi ymwybyddiaeth o effeithiau bwyd dros ben yn y cartref ac addysgu pobl sut i ddefnyddio eu bwyd dros ben trwy sesiynau coginio, pecyn adnoddau ysgolion, arddangosiadau mewn digwyddiadau cymunedol a gweithgareddau eraill.    
 
Canlyniadau a gwersi a ddysgwyd: 

Bu rhoi dosbarthiadau coginio i grŵp presennol o rieni a phlant bach (Little Acorns) yn llwyddiant. Roedd y lefel sgiliau yn hysbys o flaen llaw, gan ddileu’r angen i hyrwyddo a phrosesu archebion, yn yr un modd â’r cwrs coginio agored. Daeth yn amlwg mai’r atyniad i bobl oedd yn mynychu’r cwrs coginio agored oedd rhesymau cymdeithasol ac eraill tu hwnt i ddysgu sgiliau coginio sylfaenol.   

Arweiniodd creu fframwaith cryf a hyfforddi gwirfoddolwyr i roi sesiynau coginio at gynaliadwyedd a gwaddol y prosiect. Roedd hyn yn ddefnydd effeithiol o amser swyddog y prosiect a gynyddodd allu a chyrhaeddiad. 

Bu TBG hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc Point i gyflwyno cymhwyster bwyd ASDAN i grŵp o bobl ifanc 10-15 oed. Bu tri gwirfoddolwr TBG yn cefnogi darpariaeth y ddysg yma gan ddatblygu eu sgiliau a’u hyder fel y gallant yn awr redeg sesiynau pellach, gyda Point, neu yn rhywle arall. 

Un cyfle annisgwyl a ddeilliodd o’r prosiect oedd gwahoddiad i gwrdd â rheolwyr atyniad twristaidd lleol i edrych ar y modd y gallent wneud gwell defnydd o fwyd sy’n cael ei wastraffu ar hyn o bryd ond a allai gael ei fwyta.     

Yn sgil hyn, cynhyrchodd TBG adroddiad gydag argymhellion i ddiweddaru ymchwil i wastraff bwyd a defnyddiau posibl ar gyfer bwyd dros ben, o fewn llefydd bwyta’r atyniad ac o ran bwyd oedd yn cael ei adael ar ôl yn y llety gan westeion. Mae gan y peilot hwn botensial ar gyfer gwaith gyda diwydiant lletygarwch a thwristiaeth y sir yn y dyfodol, gan godi ymwybyddiaeth o leihau gwastraff bwyd ymhlith yr oddeutu pedwar miliwn o ymwelwyr sy’n aros yn y sir.     
 
Gwaddol allweddol o’r prosiect oedd datblygu Oergell Gymunedol Abergwaun. Er ei bod yn cael ei ariannu ar wahân, ni fyddai wedi cael ei sefydlu heb gefnogaeth swyddog y prosiect Lleihau Gwastraff Bwyd. Digwyddodd y tro annisgwyl hwn yn oes y prosiect pan fu’n rhaid cau caffi bwyd dros ben presennol TGB (Transition Café) gan fod yr adeilad yr oedd wedi’i leoli ynddo yn cael ei ddymchwel. Roedd cynnig yr oergell gymunedol yn cyd-fynd â nod cyffredinol y prosiect o leihau gwastraff bwyd. 
 
Yn rhyfeddol, mae’r oergell yn cael ei defnyddio gan fwy o bobl nag oedd yn defnyddio’r caffi, gyda llai o stigma ynghlwm. Yn wahanol i fanciau bwyd, gall pobl sy’n defnyddio’r oergell ddewis pa fwyd maent eisiau ei gymryd, ‘ffeirio’ unrhyw eitemau dros ben am bethau sydd arnynt eu hangen, yn ogystal â rhoi arian yn ddiogel ar sail ‘talwch fel y teimlwch’.  Mae hyn yn mynd i’r afael â thlodi bwyd wrth leihau gwastraff bwyd, a heb unrhyw stigma ynghlwm, gan fod pobl yn ei ddefnyddio am sawl rheswm. 
 
Mae’r broses o sefydlu a rhedeg yr oergell gymunedol a’r dysgu yn sgil hynny wedi arwain at TBG yn darparu cefnogaeth mentora i Oergell Gymunedol Arberth a ariennir gan LEADER. 
 
Dyfyniad gan gyfranogwr gwirfoddol:

“O safbwynt gweithiwr chwarae roedd yn wych gweld y plantos a’u rhieni yn mynd ati o ddifri. Fe wnaeth hyd yn oed 
un o’r ieuengaf yn y grŵp, dal yn fabi mewn gwirionedd, fwynhau chwarae gyda’r toes. Fe wnaeth rhai o’r plant a’u 
rhieni brofi bwyd nad oedden nhw wedi’i brofi o’r blaen a’i hoffi. Roedd yn brofiad newydd iddyn nhw i gyd gan nad 
oedden nhw erioed wedi gwneud bara o’r blaen.”  

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Christine Samra
Rhif Ffôn:
01348 831021
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.transitionbrogwaun.org.uk