Lleoliad:
Bro Morgannwg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£6018.61

Disgrifiad o'r prosiect:

Ar sail canlyniadau arolygon, mae Cymdeithas Tai Newydd, Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd a’r Fro a Deietegwyr Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gwneud cais am arian gan Gymunedau Gwledig Creadigol i geisio mynd i'r afael â thlodi bwyd a gordewdra, sy’n broblem gynyddol yn y Fro.

Nod cynllun eu prosiect oedd cael dull arloesol o weithio â theuluoedd yn ardaloedd gwledig y Fo i hybu bwyd da a maeth; rhoi gwybodaeth am faeth a sgiliau coginio ymarferol i deuluoedd; a chyflwyno mentrau lles corfforol newydd i wella eu hiechyd a’u lles. 

Roedd cynnig y prosiect yn canolbwyntio ar ddwy ardal benodol yn y Fro, sef Llanilltud Fawr a Sain Tathan, sef dwy ardal sydd â rhannau difreintiedig.

Treialwyd y prosiect mewn dwy ysgol, un ganolfan gymunedol ac un ganolfan hamdden. Dewiswyd y lleoliadau ar sail y cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu ganddynt, ac roeddent yn ffordd o ganfod pa fathau o ymyriadau oedd yn addas.

Rydym yn credu bod defnyddio adnoddau cymunedol sy'n bodoli eisoes yn golygu bod modd defnyddio perthnasoedd sy’n bodoli eisoes â rhanddeiliaid a fyddai’n debygol o ddod i gymryd rhan mewn awyrgylch sy'n gyfarwydd iddynt, a byddai'r modelau cyfathrebu ar gael eisoes er mwyn cynyddu lefel yr ymgysylltiad.  

Yn y tymor hir, y gobaith yw y byddai’r cynllun peilot yn canfod unrhyw botensial i greu cymunedau cydlynus a chadarn, gyda’r cyfranogwyr yn darparu'r sgiliau a’r arbenigedd a ddysgwyd ganddynt yn y prosiect, drwy wirfoddoli yn eu cymunedau lleol. Gyda gobaith, byddai’r cynllun peilot yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio asedau lleol i greu gwerth economaidd, er enghraifft, gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu'r eglwys ar safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan yn ganolfan lesiant o bosibl, ynghyd â chaffi cymunedol.

Amcanion y prosiect:

Ystyrid bod y cynllun peilot yn gyfle i gasglu gwybodaeth am anghenion y cymunedau lleol yn ardaloedd gwledig y Fro, o ran gwella eu hiechyd a’u lles, felly byddai'r gwersi i'w dysgu yn ased allweddol wrth gynllunio a datblygu gweithgareddau i'r dyfodol i sicrhau eu bod yn gynaliadwy.

Er enghraifft, y gobaith oedd i’r ysgolion lleol ystyried beth yw cyfraniad nhw o ran darparu gweithgareddau iechyd a lles cyffredinol ar gyfer eu cymuned, a beth yw gwerth hynny. Byddai hynny’n digwydd drwy gymryd rhan yn Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) a datblygu eu staff drwy gwblhau'r hyfforddiant achrededig Nutrition Skills for Life™.

At hynny, byddai Newydd yn parhau i gefnogi'r gymuned gyda gwasanaethau cofleidiol, gan gynnwys cynhwysiant digidol, sgiliau cyflogadwyedd a mynediad at hyfforddiant ychwanegol i fod yn wirfoddolwr petai'r rhaglen yn llwyddiannus ar ôl cyfnod y cynllun peilot, a hynny i alluogi’r cyfranogwyr eu hunain i rannu eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y gymuned.

Rhan o’r rhaglen beilot yw ceisio cyflwyno cyfranogwyr i gyfleoedd a gweithgareddau lleol megis rhwydweithiau rhannu bwyd, cydweithfeydd bwyd yn y Fro a banciau bwyd er enghraifft. Cynlluniwyd hefyd y byddai darparu sesiynau ymwybyddiaeth ‘Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff’ yn golygu bod y cyfranogwyr yn dod yn fwy ymwybodol o wastraffu bwyd, a sut gallant fynd i'r afael â hyn er mwyn cyfrannu hefyd at ddatblygu cynaliadwy. 

Dyma oedd nodau’r cynllun peilot:

  • datblygu dealltwriaeth o agweddau pobl tuag at iechyd a llesiant mewn sefyllfa deuluol a chymunedol
  • datblygu dealltwriaeth o’r mathau o ymyriadau sydd eu hangen
  • penderfynu pa gymorth sydd ei angen i greu newid mewn ymddygiad er mwyn gwella ffyrdd iach o fyw
  • dysgu sut i ddarparu prosiectau iechyd a lles mewn ardaloedd gwledig, gyda phwyslais arbennig ar y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu cymunedau
  • dysgu o'r cyfleoedd ymgysylltu, gan ddeall beth weithiodd a pham. Defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r cynllun peilot hwn i ddatblygu rhaglenni mewn ardaloedd eraill
  • cymharu a gwrthgyferbynnu’r model ag ardaloedd mwy trefol lle gellid cyflwyno’r rhaglen yn y dyfodol oherwydd nid oes neb wedi edrych ar hyn o’r blaen
  • cynnig gwasanaeth cofleidiol os yw hynny’n briodol, gan ymgorffori cynhwysiant digidol, sgiliau cyflogadwyedd a mynediad at hyfforddiant ychwanegol i fod yn wirfoddolwr i alluogi cyfranogwyr i rannu eu sgiliau a’u gwybodaeth yn y gymuned 

Pwy yw buddiolwyr y prosiect?

Cymunedau lleol mewn Ardaloedd Difreintiedig.

Beth oedd canlyniad y prosiect?  

Yn ogystal â phroses fonitro feintiol, cafodd data ansoddol ei gasglu gan y Cynllunydd Llesiant am y cynllun peilot. Cafodd y cyfranogwyr eu cyfweld cyn unrhyw ymyriadau ynglŷn â’u teimladau am eu hiechyd a’u lles mewn perthynas â'r gweithgareddau dan sylw, ac eto yn dilyn yr ymyriad er mwyn cael gwybod a oedd y cyfranogwyr wedi gallu defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd, ac a oedd y cynllun wedi gwneud gwahaniaeth i'w hiechyd a’u lles o ddydd i ddydd.

Yn ôl y Cynllunydd Llesiant, mae’r adborth am brofiad pobl o'r cyrsiau wedi bod yn dda ar y cyfan, ac mae pobl wedi eu mwynhau. Roedd pobl hefyd yn frwd dros y cyrsiau, ac roeddent yn synnu nad oedd pobl eraill wedi cymryd rhan. Roedd llawer yn ystyried bod y cyrsiau’n gyfle i wneud pethau fel teulu, neu un-i-un gyda’u plant, neu fel criw newydd o bobl a fyddai ymhen amser yn dod yn ffrindiau. Ond bydd angen newidiadau yn y dyfodol, gan gynnwys:

  1. Deall sut mae cyfranogwyr posibl yn clywed am yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned ac yn defnyddio’r dulliau hynny i gael gwybod am unrhyw beth sy’n cael ei gynllunio
  2. Cynnal cyrsiau mewn lleoliadau y mae pobl yn eu defnyddio eisoes neu lle nad oes heriau o ran amser na theithio.

Cyfarfu partneriaid y prosiect yn rheolaidd i edrych ar y rhaglenni, yn weithredol ac yn strategol, gan greu gwerthusiad deinamig, sef gwneud newidiadau bach i’w cyflawni wrth ddod ar draws heriau, er enghraifft prinder cyfranogwyr.

Rydym hefyd wedi monitro taith y cyfranogwyr gyda holiaduron ‘cyn’ ac ‘ar ôl’ yr ymyriad i ddadansoddi'r gwerth cymdeithasol sydd wedi deillio o'r prosiect. Fe wnaeth Newydd ddefnyddio'r offer ‘Value Insight’ gan HACT i fesur effaith gwerth cymdeithasol yr ymyriadau. 

Edrych i’r dyfodol

Bydd Newydd yn parhau i gynnig gwasanaeth cofleidiol, sydd nid yn unig yn cynnwys mentrau iechyd a lles pan fo angen, ond hefyd cynhwysiant digidol, sgiliau cyflogadwyedd a mynediad at hyfforddiant ychwanegol i fod yn wirfoddolwyr, a hynny i'w denantiaid a’r gymuned yn ehangach ym Mro Morgannwg. 

Mae ‘FareShare’ yn elusen sy’n sicrhau nad yw bwyd yn cael ei wastraffu ac nad yw pobl yn mynd heb fwyd. Mae’n ailddosbarthu bwyd dros ben i elusennau a grwpiau cymunedol sy’n troi’r bwyd hwnnw yn brydau bwyd ledled y DU. Mae ‘FareShare’ ar fin cael ei gyflwyno ym Mro Morgannwg, felly mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gobeithio cael cysylltiad â'r cynllun hwn er mwyn cynnig cyfleoedd hyfforddi i’w gwirfoddolwyr a fyddai, gobeithio, o fudd i ardaloedd gwledig y Fro yn y dyfodol. Bydd y cynllun yn cael cysylltiad â'r archfarchnadoedd lleol felly byddem yn argymell bod grwpiau megis Seintiau Sain Tathan yn ystyried nôl bwyd dros ben i'w ddosbarthu i deuluoedd lleol mewn angen. Gallwch fynd i FareShare i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn.

Bydd Grŵp Llywio Bwyd y Fro yn parhau i roi eu Siarter ar waith, sy’n ceisio sicrhau cymunedau mwy iach ym Mro Morgannwg drwy gysylltu â bwyd. Dyma eu blaenoriaethau allweddol:

  • Pryd da o fwyd i bawb bob dydd
  • Busnesau bwyd annibynnol a llewyrchus, sy’n cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi
  • Ystyried y byd, bwyta’n lleol

Bydd y partneriaid yn parhau i weithio gyda’i gilydd ac i rannu adnoddau i wella iechyd a lles pobl sy’n byw yng nghymunedau Bro Morgannwg. 

Rydym yn bwriadu rhannu'r adroddiad hwn gyda’r canlynol:

  • Cymunedau Gwledig Creadigol
  • Partneriaid y Prosiect
  • Cartrefi Cymunedol Cymru
  • Cyngor Bro Morgannwg
  • Bwyd y Fro
  • Bob Penrose – Cynghorydd ym Mro Morgannwg ac Aelod o'r Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant
  • Rachel Connor – Prif Weithredwr Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg

Rydym hefyd yn bwriadu darparu adroddiad ar gais.