Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39700.00

Gall pori da byw ar laswelltir eang godi nifer o broblemau fel anawsterau wrth eu casglu, rheoli’r pori a mwy o bosibilrwydd y byddant yn cael eu dwyn. Gyda’r nod o ffermio yn ddoethach yn hytrach na chaletach mae grŵp o chwe ffermwr o bob rhan o Gymru yn ymchwilio i weld sut y gall defnyddio technoleg olrhain helpu i atal y problemau hyn. Mae pedwar o’r ffermwyr yn gynhyrchwyr defaid ar Fannau Brycheiniog, ac yn cyd-bori ar y mynydd yn ystod yr haf. Mae un ffermwyr yn pori gwarchodfa arfordirol Cynffig ger Margam, Port Talbot gyda gwartheg. Mae’r ffermwr arall yn gyfrifol am bori cadwraethol ar dir yng Ngogledd Cymru. Cysyniad newydd yw technoleg olrhain da byw i systemau pori anifeiliaid eang yn y Deyrnas Unedig a’r prosiect hwn yw’r cyntaf o’i fath yma yng Nghymru.

Y dechnoleg

Mae un ddyfais anfon negeseuon a batri yn cael eu gosod ar goler a fydd am wddw’r anifail. Maent yn dibynnu ar donfedd radio LoRaWAN sy’n caniatáu trosglwyddo dros bellter mawr (mwy na 6 milltir mewn ardaloedd gwledig) gan ddefnyddio ychydig iawn o bŵer. Rhaglenir y coleri i anfon data GPS bob 10 munud ac ar ôl cael ei roi ar yr anifail bydd y batri yn para am rhwng 1 a 2 flynedd.

Y data

Bydd y ffermwyr yn gallu gweld y wybodaeth ganlynol trwy ap ar eu ffonau clyfar:

  • Lleoliad GPS (Lledred, Hydred)
  • Lefelau Gweithgaredd - gan roi rhybudd os bydd yr anifail yn symud mewn modd arbennig (wrth gael eu dwyn o bosibl)
  • Dangosyddion Ymddygiad (pori, pori ysgafn, gorwedd)
  • Rhyngweithio Cymdeithasol - cyswllt gydag anifeiliaid eraill, a all fod yn ddefnyddiol wrth ystyried rhyngweithio rhwng rhiant a’i epil, asesu gallu mamol anifail benyw

Cynllun y prosiect

  • Bydd y prosiect yn cael ei gynnal dros 2 dymor pori, 2019 a 2020.
  • Bydd pedair diadell o ddefaid a dwy fuches o wartheg yn cael eu cynnwys yn y prosiect
  • Bydd canran o bob diadell/buches yn gwisgo’r coleri GPS. 

Deilliannau Posibl

  • Bydd y ffermwyr yn: Gwybod ble mae eu hanifeiliaid ar y funud (gydag oediad o 10 munud); Yn gwybod beth mae’r anifeiliaid yn ei wneud; Yn gwybod ble mae eu hanifeiliaid yn pori dros gyfnod o amser.
  • Gall hyn o bosibl leihau’r amser wrth gasglu anifeiliaid a’r costau, leihau’r risg y byddant yn cael eu dwyn, helpu i ddynodi anifeiliaid sâl, a chael gwell dealltwriaeth o arferion pori.
  • Bydd y prosiect yn asesu pa % o ddiadell ddylai gael coler, er mwyn cael data defnyddiol.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau 

Cyhoeddiad Technegol, Rhifyn 23 (Medi/Hydref 2019)

 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Helen Ovens
Email project contact