Lleoliad:
Bro Morgannwg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£2176.77

Disgrifiad o'r prosiect:

Beth yw Ynni Cymunedol?

Mae prosiectau Ynni Cymunedol yn cael ei harwain gan y gymuned, ac maent o fudd i'r gymuned leol. Gallant rymuso pobl, cefnogi economïau lleol cryfach, a helpu pobl i arbed arian ar eu biliau ynni. Gallant gynnwys prosiectau sy’n helpu i ddefnyddio llai o ynni, rheoli ynni yn fwy effeithlon, cynhyrchu ynni cynaliadwy, neu brynu ynni yn fwy effeithiol.

Pwt am y Siaradwyr - Gellir cael sleidiau cyflwyniadau'r siaradwyr yn y fan yma

Jodie Giles - Uwch Reolwr Prosiectau ar gyfer Regen 
Rhoddodd Jodie olwg cyffredinol ar y gwaith o ddatblygu prosiectau ynni cymunedol yn Nyfnaint, a bu’n sôn am y manteision cynyddol dros y blynyddoedd. Roedd Jodie yno i ateb cwestiynau ac i rannu ei harbenigedd a’i gwybodaeth helaeth gyda ni.

Dan MacCallum -  Awel Aman Tawe (AAT)
Mae Awel Aman Tawe yn datblygu ac yn cynghori ynghylch cynlluniau cymunedol ers 1998, gan gynnwys gwynt, haul, biomas, a dŵr. Maent wedi gweithredu mesurau effeithlonrwydd ynni mewn miloedd o gartrefi a chanolfannau cymunedol. 

Phil Powell -  Gwent Energy CIC  
Mae'r prosiect hwn wedi gosod 300kW o PV ar adeiladau cymunedol, ac mae wedi cefnogi mwy na 70 o brosiectau ynni cymunedol. Mae ‘Fully Charged’, eu prosiect diweddaraf, yn ymwneud â cherbydau trydan mewn cymunedau. 

Ant Flanagan - Gower Power 
Mae’r sefydliad hwn wedi gosod prosiect ynni'r haul 1MW ar lawr daear drwy gynnig cyfranddaliad i'r gymuned er mwyn galluogi pobl yr ardal i fuddsoddi. Defnyddir yr elw dros ben i adfywio'r ardal.

Fe wnaethom ni gynnal gweithdy yn y digwyddiad.  Rydym wedi rhoi crynodeb o rai o'r ymatebion a roddwyd yn aml. 

Beth yw eich dyheadau ar gyfer ynni cymunedol? 

  • Cael mwy o ymgysylltiad gan y gymuned
  • Lleihau allyriadau
  • Cael mwy o ffynonellau ynni cynaliadwy i fod yn norm
  • Cludiant cymunedol cynaliadwy
  • Newid agweddau ac ymwybyddiaeth
  • Effeithiau cymdeithasol cadarnhaol
  • Dylanwadu ar weithdrefnau cynllunio 
  • Ôl-osod yn hawdd
  • Ysbrydoli'r awdurdod lleol i fod yn esiampl


Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Roedd y nosweithiau ysbrydoli yn ceisio ysbrydoli ein gwesteion i ystyried datblygu prosiect ynni cymunedol eu hunain.

Pwy yw buddiolwyr y prosiect?

Cymunedau a’r amgylchedd ym Mro Morgannwg.

Beth nesaf i’ch prosiect chi?

Gobeithio bod y noson wedi’ch ysbrydoli, a bod pawb a gymerodd ran wedi cael eu hannog i archwilio’r posibiliadau o ran prosiectau ynni cymunedol yn eu cymunedau eu hunain.

Os ydych yn meddwl datblygu syniad am brosiect, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu rhoi cymorth i chi gymryd y camau nesaf. Gallai hyn gynnwys:

  • Dangos y ffordd at asiantaethau cymorth perthnasol
  • Ymweld â safleoedd prosiectau tebyg
  • Datblygu cynlluniau mentora
  • Hwyluso dysgu rhwng cymheiriaid
  • Hwyluso ymgynghori â’r gymuned
  • Cynghori a dangos y ffordd at fodelau cyllid a chynlluniau grant
  • Prosiectau peilot ar sail cyllid refeniw
  • Cynnal cymorthfeydd ar bynciau 
  • A mwy!

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Nicola Summer-Smith
Rhif Ffôn:
01446 704707
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/working/Rural-Communities/Green-Community-Energy.aspx