Lleoliad:
Ceredigion
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39750.00

Mae’r gostyngiad yn y boblogaeth o wenyn gwyllt a pheillwyr eraill yn y Deyrnas Unedig yn creu bygythiad difrifol i’r diwydiant bwyd yma. Mae’r pryfed bach yma yn chwarae rôl anferth yn amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig trwy beillio’r llu o lysiau a ffrwythau yr ydym yn eu bwyta yn ddyddiol, yn ogystal â rhywfaint o’r bwyd y mae ein da byw yn dibynnu arno.

Mae chwech o ffermwyr llaeth sy’n aelodau o gwmni cydweithredol Calon Wen yn anelu at hybu’r nifer o beillwyr ar eu ffermydd trwy brosiect 3 blynedd. Yn anffodus mae ffermio mwy dwys a chynnydd mewn gwndwn unffurf wedi arwain at golli cynefin i rywogaethau o beillwyr yn y Deyrnas Unedig. Er bod digon o wybodaeth ar gael am wella cynefin i beillwyr mae’r mwyafrif o’r astudiaethau hyn wedi canolbwyntio ar dir âr neu systemau garddwriaethol. Ychydig o sylw a roddwyd i’r modd y gall gwahanol ddewisiadau rheoli fferm ym maes ffermio da byw ar laswellt, sydd yn gryf iawn yng Nghymru, fod o fudd i’r boblogaeth o beillwyr.

Bydd amrywiaeth o ddewisiadau rheoli glaswelltir yn cael eu hastudio ar y chwe fferm trwy Gymru gyfan:

Cymysgedd hadau arbenigol (Gwndwn Pedair Blynedd Diben Deuol gan Cotswold Seeds): yn cynnwys meillionen hopysaidd, meillion (coch, gwyn, melys ac alsike), milddail a rhywogaethau eraill sy’n gwella’r boblogaeth o beillwyr.

Rhesi caeau heb eu torri: Bydd ffermwyr yn hau 2 fath o hadau cymysg, un fydd yn cynnwys y cymysgedd newydd a gyfrifir ar ddechrau’r prosiect mewn partneriaeth â chwmni hadau. Bydd y plotiau arbrofol yn cael eu harolygu cyn y cynhaeaf cyntaf ar ddiwedd mis Mai ac yna ym misoedd Mehefin a Gorffennaf.

Caeau sy’n gyfoethog o flodau yn cael eu pori’n hwyr / wedi’u gwella’n rhannol: Bydd safleoedd posib yn cael eu canfod yn y flwyddyn gyntaf yn ogystal â chasglu data gwaelodlin. Bydd effaith oedi cyn pori a/neu ohirio tan y flwyddyn ganlynol yn cael ei asesu gan ystyried poblogaeth peillwyr.

Mae’r ffermwyr, ynghyd â chynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn a’r RSPB, yn gobeithio gweld y gall newidiadau syml i reoli glaswelltir heb aberthu cynhyrchiant a phroffidioldeb fynd law yn llaw â chadwraeth y cacwn a’r gwenyn.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau:

 

Infograffig porfa i beillwyr (Rhagfyr 2019): Manteision gwyndonnydd amlrywogaeth
 

Infograffig porfa i beillwyr (Rhagfyr 2019): Cynaeafu silwair mewn modd sy'n ga…

 

(Rhagfyr 2019): Prosiect Porfa i Beillwyr:

 

 

Sain (Chwefror 2019): (BBC Radio 4) Farming Today - Anna Hobbs, Ymddiriedolaeth…

 

(Ionawr 2019): Becky Holden (Bwlchwernen Farm) a Tony Little (ADAS):

 

Erthygl (Rhagfyr 2018): Ffermwyr llaeth organig yn brysur yn helpu’r cacwn

 

(Awst 2018): Sinead Lynch, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn:

 

Cyhoeddiad Technegol, Rhifyn 16 (Gorffennaf / Awst 2018): Porfa i beillwyr

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Tony Little
Email project contact