- Lleoliad:
-
Bro Morgannwg
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£7072.72
Disgrifiad o'r prosiect:
Nod y prosiect peilot Mapio Cymunedol yw ennyn dealltwriaeth drylwyr o ardal Sain Tathan drwy gydweithio â'r trigolion, y rhanddeiliaid a'r busnesau lleol i ystyried yr agweddau positif ar yr ardal, gan fapio'r asedau ffisegol a'r cysylltiadau cymdeithasol o fewn y gymuned.
Beth y bydd y prosiect yn ei gyflawni?
Amcanion y prosiect
• Adolygu'r sefydliadau sy'n gweithio yn yr ardal a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.
• Ymgysylltu â grwpiau targed, grwpiau anodd eu cyrraedd a chymuned ehangach Sain Tathan er mwyn clywed eu barn ynghylch eu cymuned, y gwasanaethau lleol sydd ar gael o fewn yr ardal a sut yr hoffent iddi ddatblygu yn y dyfodol.
• Mapio'r asedau ffisegol, yr adnoddau cymunedol a'r gweithgareddau yn yr ardal.
• Gwerthuso'r broses a llunio pecyn cymorth i'w rannu â chymunedau eraill yn y Fro.
• Datblygu cynllun gweithredu ac ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer prosiectau peilot drwy raglen LEADER.
Pwy ddylai elwa ar y prosiect?
Er bod y cynllun peilot cychwynnol wedi targedu Sain Tathan mae cymunedau eraill o fewn ardaloedd gwledig y Fro hefyd wedi elwa ar ddefnyddio'r Arweinlyfr drafft ar gyfer Mapio Cymunedol.
Beth oedd canlyniad y prosiect?
Cafodd y prosiect ei gwblhau ym mis Mawrth 2017, sef adeg lansio'r Arweinlyfr Mapio Cymunedol. Mae fideo wedi'i gynhyrchu er mwyn rhannu'r hyn a ddysgwyd gyda phobl eraill ac ers hynny mae nifer o gymunedau wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio'r arweinlyfr.
Mae swyddogion y Cyngor yn defnyddio'r arweinlyfr er mwyn cefnogi eu gwaith ymgysylltu â'r gymuned ac maent wedi cyflwyno'r hyn y maent wedi'i ddysgu i gyfarfod Un Llais Cymru cynghorau tref a chynghorau cymuned yn Ne Cymru. Roedd ymateb y rhai a fynychodd yn bositif iawn ac yn awyddus i wybod mwy.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Hannah Dineen
- Rhif Ffôn:
-
01446 704226
- Cyfeiriad e-bost:
- hdineen@valeofglamorgan.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/working/regeneration/rural_regeneration/Community-Mapping/Community-Mapping-Pilot.aspx