- Lleoliad:
-
Merthyr Tudful
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£146761.83
Roedd prosiect y “Tipical Valleys” yn ganlyniad i gydweithredu a chyfathrebu rhwng nifer o randdeiliaid a chymunedau lleol ynghyd ag asiantaethau rhanbarthol. Yn ddiweddar, daeth amgylcheddwyr, daearegwyr a haneswyr diwylliannol i sylweddoli’n gynyddol mai tomennydd rwbel a grëwyd o ganlyniad i ddiwydiannau, yw rhai o’r ychydig nodweddion yn y dirwedd sy’n cynnig: cynefinoedd amrywiol ar gyfer rhywogaethau brodorol, adnoddau gwerthfawr ar gyfer astudiaeth wyddonol a daearegol, ac asedau treftadaeth gwerthfawr.
Nodau’r Prosiect:
Sefydlwyd “Tipical Valleys” er mwyn i gymunedau lleol ail-ymgyfarwyddo â’u tirweddau ôl-ddiwydiannol gan na chawsant eu gwerthfawrogi’n llawn hyd yma. Nod y prosiect oedd addysgu a hysbysu pobl gan ennyn mwy o werthfawrogiad am y lleoedd hyn o fewn eu cymunedau.
- Darparu tirwedd arloesol ac ysbrydoledig i godi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd lleol a’r bygythiadau iddo
- Hyrwyddo mwy o gyfleoedd ar gyfer hamdden ac adloniant yn yr awyr agored
- Gweithio gydag ysgolion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo’r syniad fod tomennydd rwbel yn asedau cymunedol pwysig, ac annog ceidwadaeth.
Allbynnau’r Prosiect:
Cyf | Dangosydd Perfformiad | Targed | Cyflawnwyd | Sylwadau |
LD-CL.001 | Nifer yr astudiaethau dichonoldeb | 0 | ||
LD-CD.002 | Nifer y rhwydweithiau a sefydlwyd | 5 | 3 |
1 rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau â diddordeb mewn tomennydd rwbel 1 rhwydwaith pan-Ewropeaidd o sefydliadau â diddordeb mewn tomennydd rwbel 1 rhwydwaith o athrawon â diddordeb mewn addysg yn yr awyr agored. Hefyd, nifer o grwpiau anffurfiol â diddordeb mewn prosiectau deilliedig |
LD-CL.003 | Nifer y swyddi a ddiogelwyd trwy gefnogi prosiectau | 1 | 1 | |
LD-CL.004 | Nifer y gweithgareddau peilot a gyflawnwyd/ cefnogwyd | 0 | ||
LD-CL.005 | Nifer yr hybiau cymunedol | 1 | 1 | Trowyd Tŷ Gwydr Cyfarthfa i fod yn hyb dysgu lleol |
LD-CL.006 | Nifer y camau/ gweithgareddau hyrwyddo a/neu farchnata gwybodaeth a gafwyd i godi ymwybyddiaeth o’r Strategaeth Datblygu Lleol a/neu ei brosiectau | 40 | 56 | |
LD-CL.007 | Nifer y rhanddeiliaid yr ymgysylltwyd â hwy | 20 | 30 | |
LD-CL.008 | Nifer y cyfranogwyr a gefnogwyd | 500 | 1653 |
Sylwadau’r Cyhoedd:
“Roedden ni bob amser yn chwarae ar y tomennydd fel plant yn ôl yn y pumdegau a’r chwedegau. Mae’n anhygoel meddwl bod y rhain wedi dod yn lleoedd mor ddiddorol ac mae’n hyfryd gweld plant yn eu defnyddio nawr. ”
“Pam nad oes unrhyw un wedi yn dweud wrthym ni am hyn o’r blaen! Rwy’i wedi dysgu cymaint yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, ac rwy’i mynd i ddod â fy merch a’m hwyrion yma ar y penwythnos a sôn wrthyn nhw am bopeth.”
“Pam yr holl ffws am Fannau Brycheiniog pan mae gennym ni lefydd fel hyn yn ein cymunedau!?”
Mae Prosiect “Tipical Valleys” yn rhan o Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Harri Evans
- Rhif Ffôn:
-
01685 725463
- Cyfeiriad e-bost:
- harri.evans@merthyr.gov.uk
- Email project contact