Lleoliad:
Dyffryn Wysg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39200.00

Mae dail tafol yn broblem fawr mewn systemau glaswelltir. Gall y dail leihau cynnyrch glaswellt a’r defnydd ohono a dim ond 65% o werth porthianol glaswellt sydd ynddo. Gall defnyddio chwynladdwyr i reoli dail tafol gael effaith negyddol ar feillion mewn porfa ac oblygiadau ar gyfer yr ecosystem ehangach os cânt eu defnyddio yn y dull anghywir. Byddai gostyngiad yn y defnydd o chwynladdwyr mewn glaswelltir o fantais o ran ansawdd dŵr a phridd a chynnal bioamrywiaeth.

Mae eu dinistrio trwy driniaeth electroffisegol yn cynnig y manteision posibl o reoli dail tafol gan leihau’r angen am chwynladdwyr. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar effeithiolrwydd a hyfywedd ariannol defnyddio peiriant chwynnu trydanol i reoli dail tafol ar ddwy fferm odro ger Rhaglan, De Cymru. Mae’r peiriant yn defnyddio electrodau llawn egni i weithredu cerrynt trydanol trwy ddail y dail tafol gan achosi i’r meinwe i gyd farw.

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio peiriant chwynnu trydanol gan y cwmni Rootwave. Mae’r ffon a ddelir gan law yn cael ei bweru gan eneradur gyda gwifren hir (~20m). Mae pob dail tafol yn cael ei gyffwrdd gan y ffon drydanol cyn symud ymlaen i’r planhigyn nesaf. Mae’r dechnoleg hefyd yn medru cael ei ddefnyddio ar beiriannau mwy megis peiriant sy’n cael ei bweru gan PTO tractor.

Bydd peiriant yn cael ei logi am gyfnod o ddwy flynedd i dreialu rheoli dail tafol trwy eu dinistrio yn electroffisegol. Prif sialens y prosiect fydd cymharu effeithlonrwydd a hyfywedd ariannol y driniaeth chwynnu trydanol mewn cymhariaeth â defnyddio chwynladdwyr mewn system laeth lle mae’r mewnbwn yn fawr.

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Will John
Email project contact