Lleoliad:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£4061.00

Disgrifiad o'r prosiect;

Bydd y prosiect yn cynnig pecyn o gyfleoedd hyfforddi gan ddefnyddio dulliau arloesol ar agweddau ar ddehongli treftadaeth i grwpiau treftadaeth a chymunedol ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, gan helpu grwpiau i gofnodi eu treftadaeth mewn ffordd ddeinamig.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Bydd y prosiect hwn wedi treialu hyfforddiant ar gyfer sgiliau treftadaeth arloesol fydd wedi helpu i ddatblygu hunaniaeth leol a naws am le mewn cymunedau gwledig. Bydd hyn yn helpu'r grwpiau/cymunedau treftadaeth ddatblygu ystod o ddeunydd digidol a thrwy hynny helpu i gynnwys mwy o bobl a'u gwneud yn ymwybodol o'r dreftadaeth gyfoethog sydd gan eu hardal leol.

Pwy ddylai elwa ar y prosiect?

Dros 50 o grwpiau treftadaeth/cymunedol ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru

Beth oedd canlyniad y prosiect?   

  • Cynhaliwyd 6 cwrs hyfforddi gan Fforwm Treftadaeth Gogledd-ddwyrain Cymru o fis Hydref tan Rhagfry 2017. 
  • Roedd 34 o gyfranogwyr gyda chynrychiolwyr o 18 o sefydliadau treftadaeth. Mae hyn yn debyg i nifer y grwpiau oedd wedi mynegi diddordeb yn yr hyfforddiant yn yr holiadur gwreiddiol. 
  • Aeth rhai cyfranogwyr i un digwyddiad hyfforddiant; aeth un person i 5 o wahanol ddigwyddiadau hyfforddi. 
  • Y digwyddiad mwyaf poblogaidd oedd yr hyfforddiant Archifo Digidol, gyda 15 cyfranogwr yn cynrychioli 12 o sefydliadau. (Yr hyfforddiant hwn oedd fwyaf poblogaidd yn yr holiadur gwreiddiol a anfonwyd at aelodau). 
  • Roedd niferoedd wedi'u cyfyngu mewn rhai digwyddiadau hyfforddi, oherwydd natur yr hyfforddiant. Ar y cyfan, roedd modd rhagweld y niferoedd oedd yn bresennol ym mhob digwyddiad hyfforddi. 
  • Roedd y lleoliadau o fewn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ac roedd y cyfranogwyr yn gysylltiedig â grwpiau o fewn yr ardaloedd hyn. 
  • Bu'r adborth yn dda ac mae diddordeb mewn rhagor o ddigwyddiadau hyfforddi. 

Gweithdai

  • Cyflwyniad i Hanes Llafar 
  • Adrodd Storïau Digidol 
  • Defnyddio dulliau digidol o ddehongli treftadaeth. 
  • Archifo Digidol 
  • Olion Troed Digidol 
  • Golygu Ffotograffau

Gwersi wedi'u Dysgu - 

Y rhai oedd yn bresennol - amgueddfeydd; cymdeithasau dinesig; cymdeithasau hanesyddol; cymdeithas archaeolegol; unigolion; clybiau; y trydydd sector.

  • Dysgu am yr offer/ymarfer defnyddio offer 
  • Dysgu pa gwestiynau i'w gofyn 
  • Gwrando ar enghreifftiau o recordiadau o hanes llafar
  • Ymarfer defnyddio offer 
  • Golygu a rhoi popeth at ei gilydd i greu y cynnyrch terfynol
  • Enghreifftiau da o beth sy'n bosib ei wneud 
  • Dysgu am y dechnoleg newydd sydd ar gael 
  • Gwybodaeth am Apiau a'r defnydd ohonynt; costau a manteision/anfanteision 
  • Agweddau ymarferol/defnyddio offer ac ati 
  • Deall mwy am ddehongli 
  • Gallu gofyn cwestiynau technegol
  • Materion hawlfraint - clir iawn ac o gymorth 
  • Arddangos/dysgu mwy am Gasgliad y Werin 
  • Canfod gwybodaeth newydd sy'n berthnasol i weithgareddau presennol y grŵp
  • Rhwydweithio gyda grwpiau eraill
  • Dysgu sut i greu ôl troed digidol 
  • Gweld enghreifftiau o olion troed digidol mewn dull ymarferol 
  • Eglurhad da o sut i wneud olion troed digidol
  • Sut i ddefnyddio'r meddalwedd photoshop 
  • Edrych ar yr amrywiol ffyrdd o olygu ffotograffau 
  • Trwsio ffotograffau 
  • Haenau
     

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Sarah Jones
Rhif Ffôn:
01490 340500
Email project contact