Defnyddio dulliau monitro datblygedig, mapio lefelau halogi a modelu er mwyn dibynnu llai ar gynhyrchion lladd llyngyr drwy driniaethau wedi’u targedu’n fwy penodol.

Gweithgareddau’r prosiect

  • Mae’r prosiect yn rhedeg o fis Rhagfyr 2019 tan fis Mehefin 2022.
  • Bydd pob ffermwr yn dewis grŵp o tua 100 o famogiaid bob blwyddyn (yn pori yn yr un cae) ac yn eu monitro gydol y cyfnod cyn esgor.
  • Cymerir sampl gan y grŵp defaid i gyfri’r wyau yn eu carthion a’i ddadansoddi bob wythnos gan ddechrau 6 wythnos cyn ŵyna hyd at 6-8 wythnos ar ôl ŵyna.
  • Hefyd, caiff profion manylach eu gwneud ar grŵp llai o famogiaid er mwyn gwybod pa lyngyr sy’n bresennol ar bob fferm.
  • Drwy hyn, gellir llunio graff i ddangos y cynnydd cyn esgor yn y baich llyngyr parasitig cyn ŵyna, ac yn fuan ar ôl ŵyna.
  • Caiff pwysau a sgôr cyflwr corff y famog eu monitro gan ddechrau 6 wythnos cyn ŵyna hyd at 6-8 wythnos ar ôl ŵyna.
  • Caiff pwysau’r ŵyn eu mesur pan maent yn 56 ac yn 90 diwrnod oed a chaiff lefelau’r baich llyngyr eu cofnodi i asesu’r effaith ar iechyd a chynhyrchiant.

Gyda lwc, bydd y data o flwyddyn gyntaf y prosiect yn dangos pryd mae lefelau’r baich llyngyr yn dueddol o gynyddu ar bob fferm cyn amser ŵyna. Bydd hyn yn dangos yr amser gorau un i roi triniaethau lladd llyngyr. Yn ystod blwyddyn dau a thri o’r prosiect bydd y ffermwyr yn datblygu ac yn gweithredu cynlluniau trin ar sail y dystiolaeth a gafwyd drwy fonitro’r mamogiaid ac yn rhannu eu profiadau â’r diwydiant ehangach.

Bydd data o’r prosiect hefyd yn cael ei fwydo i’r model GLOWORM-FL a ddatblygwyd gan Brifysgol Queens Belfast a Phrifysgol Lerpwl. Mae’r model hwn yn cyfuno gwybodaeth am y tywydd, symudiadau anifeiliaid a data cyfrif wyau i ragweld y baich llyngyr parasitig fesul cae. Gallai hwn fod yn offeryn defnyddiol i ffermwyr ar gyfer rheoli eu harferion pori er mwyn lleihau’r risg bod eu stoc yn cael eu heintio. 

Canlyniadau posibl y prosiect

  • Gwell ymwybyddiaeth o bwysigrwydd monitro beichiau parasitig mewn defaid yn gyffredinol, a’r cynnydd cyn esgor yn benodol. 
  • Defaid yn dod i lai o gysylltiad â llyngyr main drwy allu rhagfynegi’n well y beichiau llyngyr ar borfa, a gwell trefniadau rheoli pori ar sail y rhagfynegiadau hynny.
  • Arafu datblygiad ymwrthedd a gwell dealltwriaeth o ddatblygu ymwrthedd ymysg gwahanol rywogaethau llyngyr main.
  • Defnyddio llai o driniaethau lladd llyngyr a’u defnyddio’n fwy effeithlon drwy gyfri’r wyau mewn carthion a gwneud profion i adnabod rhywogaethau gan arwain at ddefnyddio llai o driniaethau lladd llyngyr yn gyffredinol.

Mae ffermwyr bellach yn targedu triniaethau lladd llyngyr ar gyfer ŵyn yn well er mwyn cael cyfraddau tyfu da heb beryglu effeithiolrwydd triniaeth lladd llyngyr. Fodd bynnag, mae triniaethau ar gyfer mamogiaid yn cael eu rhoi fel mater o drefn o amgylch amser ŵyna oherwydd y risg bod mamogiaid yn halogi’r borfa â’r baich llyngyr y gallent fod yn ei gario. Bydd y prosiect hwn yn archwilio patrymau heintiau yn y famog o amgylch adeg ŵyna, a elwir yn gynnydd cyn esgor, i sicrhau bod triniaethau’n cael eu targedu ar yr adeg orau bosibl gan ddefnyddio’r cynnyrch mwyaf priodol. 

Irwel collecting sample

Mae chwe ffermwr defaid yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru yn gweithio â’i gilydd ar y prosiect i ddatblygu cynlluniau trin llyngyr main ar gyfer eu mamogiaid yn y cyfnod cyn ŵyna, ac ychydig ar ôl ŵyna. Bu’r chwe ffermwr yn gweithio â’i gilydd ar brosiectau grŵp ers chwe blynedd. Maent wedi edrych ar effaith sgôr cyflwr corff y famog a’i phwysau ar berfformiad ac wedi mabwysiadu’r arferion gorau o ran maeth eu mamogiaid; ac mae hyn wedi arwain at effeithiau positif ar berfformiad a chost-effeithiolrwydd. Eu nod yn awr yw lleihau’r risg o heintiau parasitig yn y famog a’r oen, gwella cyfraddau twf yr ŵyn, a dibynnu llai ar gynhyrchion lladd llyngyr.

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.