Lleoliad:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£5656.70

Disgrifiad o'r prosiect;

Prosiect peilot i dreialu dull newydd o ddarparu gwybodaeth dreftadaeth i ymwelwyr drwy sefydlu nifer o rwydweithiau Ibeacon yn y sir, fydd yn cael eu diweddaru'n hawdd ac yn rheolaidd heb fod angen gosod paneli/byrddau dehongli mwy statig allai ddenu graffiti ac ymddygiad anghymdeithasol, neu fynd yn ddi-raen ac yn hen-ffasiwn mewn amser.  Trosglwyddyddion di-wifr bychain yw iBeacons sy'n defnyddio technoleg Ynni Isel Bluethooth i 'wthio' gwybodaeth i ddyfeisiadau sydd yn eu lleoliad.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

  • Treialu dull newydd o ddarparu gwybodaeth dreftadaeth i ymwelwyr
  • Sefydlu nifer o rwydweithiau ibeacon o fewn ardal wledig Gogledd-ddwyrain Cymru
  • Mae'n hawdd eu diweddaru heb fod angen gosod paneli dehongli statig 
  • Gwybodaeth i gael ei harddangos ar ddyfeisiadau smart ymwelwyr pan fyddant yn agos at yr ibeacon
  • Gwybodaeth yn cael ei arddangos naill ai ar ffurf sain/testun/ffotograffau/pdfs ac ati

Pwy ddylai elwa ar y prosiect?

  • Sir y Fflint: Yr Wyddgrug, Brynffordd, Ysgeifiog, Y Parlwr Du, Coed-llai
  • Sir Ddinbych: Rheilffordd Llangollen, Corwen, Rhuddlan Llanelwy, Dinbych, Castell Rhuthun
  • Wrecsam: Y Waun, Cefn Mawr, Brymbo, Holt, Y Bers, Dyffryn Ceiriog

Beth oedd canlyniad y prosiect?  

  • Dechreuodd y prosiect ddatblygu drwy - 
  • 6 o gymunedau / grwpiau a gafwyd o bob sir 
  • Pob grŵp wedi darparu cyllid cyfatebol i gymryd rhan yn y prosiect
  • Gwirfoddolwyr o bob grŵp wedi gweithio gyda thîm ibeacon i lansio
  • Dysgu sut i ddefnyddio'r system a'i rheoli at y dyfodol
  • Tîm ibeacon i ddarparu gwasanaeth wrth gefn

Cafodd y prosiect ei lansio ym mis Gorffennaf 2018 Mae'r Ap 'Ôl-troed Digidol Gogledd-ddwyrain Cymru' bellach ar gael i'w lawrlwytho drwy'r Storfa Ap a Google Play, wrth chwilio 'Gogledd-ddwyrain Cymru'.

Rhagor o ddatblygu i gynnwys 

  • Trafod gyda busnesau lleol
  • Darperir hyfforddiant
  • Cysylltiadau cyhoeddus ac ymwybyddiaeth y cyhoedd
  • Ehangu'r rhwydwaith
  • Gwneud cais am gyllid o'r tu allan ar gyfer cymunedau nad ydynt yn y Cynllun Datblygu Gwledig

Sut mae'r prosiect yn gweithio

Mae gwirfoddolwyr o gymunedau sy'n cymryd rhan wedi gweithio gyda'r ymgynghorwyr a benodwyd i gasglu gwybodaeth i ddehongli'r prosiect. Cafodd gwirfoddolwyr eu dysgu sut i roi'r wybodaeth hon ar y system ibeacon. Cafodd gwirfoddolwyr eu dysgu sut i reoli ac edrych ar ôl y cynnwys hwn at y dyfodol - perchnogi
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
sarah jones
Rhif Ffôn:
01490 340500
Email project contact