Lleoliad:
Sir y Fflint
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£954.00

Disgrifiad o'r prosiect:

Ymweliad addysgol yn bennaf â Moorepark 17, digwyddiad bob yn ail blwyddyn gan Teagasc yn eu Canolfan Ymchwil ac Arloesi yn Corc, Iwerddon ble mai'r brif thema oedd "Ffermydd Godro yn Iwerddon - Heriau a Chyfleoedd ac Egwyddorion Ffermydd Godro Cadarn.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Sefydlu agweddau ymarferol a damcaniaethol y gellir eu defnyddio mewn Hufenfeydd yng Nghymru.

Pwy ddylai elwa ar y prosiect?

Y rhai fydd yn bresennol a'r diwydiant llaeth yn gyffredinol.

Beth oedd canlyniad y prosiect?  

Roedd nifer o negeseuon, ond i grynhoi, dyma brif negeseuon y rhai a oedd yn bresennol - 

  • Pobl - Un o brif broblemau y diwydiant yw recriwtio a chadw staff, boed yn aelodau o'r teulu neu yn weithwyr cyflogedig. Mae'n bwysig sicrhau amodau gweithio sy'n rhoi amser i ffwrdd ac sydd â chyfleusterau atyniadol a chyfleus. Mae angen buddsoddi mewn hyfforddiant. Nid yn unig y staff ond sut i reoli staff a chael y gorau ohonynt. Mae'n rhaid inni ddefnyddio system syml o reoli'r busnes fel bod modd i bawb ddeall beth yw'r nod a sicrhau targedau syml hawdd i'w deall. 
  • Porfa - Mae'n bwysig tyfu porfa o'r safon uchaf fel y gall y fuwch ei droi yn laeth a sicrhau elw i'r ffermwr. Er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid i'r pridd fod mewn cyflwr da, gyda'r mynegai iawn o ffosffad a potasiwm ac i gael y pH iawn drwy ddefnyddio calch. Yna'r math cywir o borfa - Rhygwellt Roedd yn galonogol gwybod bod porfeydd oedd wedi'u creu yn Aberystwyth yn uchel iawn ar eu rhestr o borfeydd gorau. Trwy wella'r pridd, y porfeydd a'r dull o'u rheoli mae llawer iawn o le i wella o ran y borfa y gellid ei thyfu a'i defnyddio i gynhyrchu llaeth.
  • Buwch - Mae'n rhaid i'r fuwch feddu ar yr eneteg iawn i fanteisio i'r eithaf ar y borfa. Nid oes pwynt defnyddio gwartheg mawr o Ogledd America neu Ganada, mae'n rhaid defnyddio gwartheg Frisian.  Y rhai mwyaf effeithiol y dyddiau hyn mae'n debyg yw'r rhai a ddaw o Seland Newydd.
  • Chwistrellu caeau wedi'u hail-hadu - I reoli dail tafol, mae'n bwysig rheoli dail tafol yn gynnar. Yr anfantais yw bod mwyafrif y chwistrellau sydd ar gael yn lladd meillion. Felly mae'n well chwistrellu ac yna ail-hadu'r meillion eto gyda peiriant fel Einbock. 
  • Meillion mewn caeau pori - mae angen oddeutu 25% o feillion mewn caeau er mwyn gwneud digon o wahaniaeth. Pa wahaniaeth? - Torri i lawr y nitrogen o'r sach a hefyd codi'r cynnyrch fesul buwch. Yr anfantais i hyn yw bod tueddiad i wartheg chwyddo os ydynt yn gor-bori ar feillion, felly mae angen bod yn ofalus. 

Gwersi wedi'u Dysgu

Nid yw nifer o'r gwersi yn rhai newydd, ond mae angen eu clywed sawl gwaith cyn iddynt gael eu derbyn weithiau!

Roedd llawer o wybodaeth ar bob maes o gynhyrchu llaeth, ond efallai gormod o wybodaeth, ond mae'n rhaid dweud ei fod yn dda gweld yr holl gefnogaeth oedd i'r diwydiant drwy'r cyllid Ewropeaidd a'r gefnogaeth gan eu llywodraeth eu hunain. 
Yn ddiddorol, a'r hyn sy'n peri pryder, yw bod cynhyrchu llaeth wedi cynyddu 35% yn dilyn dileu cwotâu llaeth yn 2012 gyda'r targed ymddangosiadol uchelgeisiol o gynnydd o 50% erbyn 2020 bellach yn hawdd ei gyrraedd.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Gwyn Rowlands
Rhif Ffôn:
01490 340500
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cadwynclwyd.co.uk/