jonathon lewis

Ar gychwyn 2020, cyhoeddwyd bod 395 o ffermydd gwartheg a defaid o bob ardal o Gymru yn rhan o brosiect iechyd anifeiliaid rhagweithiol, Stoc+, a hyrwyddir gan Hybu Cig Cymru (HCC) mewn ymgais i wella iechyd cyffredinol eu praidd ac, yn y pen draw, gwella cynllunio iechyd anifeiliaid a hybu effeithlonrwydd cynhyrchu.

Mae Stoc+ yn un elfen o Raglen Datblygu Cig Coch (RMDP) sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod y gwaith hwn fydd yn para 5 mlynedd, bydd HCC yn dod a chroestoriad cynrychioliadol o hyd at 500 o gynhyrchwyr defaid a gwartheg cig ledled Cymru at ei gilydd a’u hannog i atal clefydau yn hytrach na’u trin.

Bydd y ffermwyr sy’n cymryd rhan yn derbyn cefnogaeth ymarferol a chyngor arbenigol am hyd at dair blynedd. Yn ogystal, bydd pob ffermwr yn elwa o Gynllun Iechyd a Chynllun Gweithredu wedi eu cynhyrchu’n benodol ar gyfer eu diadelloedd a buchesi a chymorth gan ymarferwyr lleol i weithio tuag at dargedau penodol.

Yn rhan o’r gwaith, mae’r tîm wedi nodi nifer fechan o lysgenhadon sy’n cynnwys ffermwyr a milfeddygon. Rôl y llysgendadon yw annog eu cyfoedion i gymryd rhan ac arddangos y buddion ymarferol o gynllunio iechyd rhagweithiol o ran iechyd anifeiliaid a phroffidioldeb fferm.

Jonathan Lewis o Landrindod yw un o’r llysgenhadon. Mae 80 o wartheg Simmental, Limousin a Stabilizer a 1,680 o ddefaid ac ŵyn Lleyn, Mule a Mynydd Cymreig ar fferm ucheldir Mr Lewis.

Dywedodd,

“Mae nifer o resymau pam ymunais i â’r prosiect. Rydw i eisiau gwella iechyd cyffredinol y ddiadell yn ogystal â cynyddu’r nifer o ŵyn rydw i’n eu gwerthu tra’n lleihau’r nifer o ddyddiau cyn eu lladd. Yn ystod y prosiect, hoffwn i hefyd leihau’r defnydd o wrthfiotigau ar y ffarm a chael cyngor ar wella bioddiogelwch.”

Claire Jones

Mae Claire Jones o Milfeddygfa Dolgellau yn llysgennad milfeddygol i’r prosiect ac fel milfeddyg a gwraig i ffermwr, mae ganddi angerdd am feddyginiaeth ataliol a gwaith iechyd buches a diadell.

Dywed Claire,

“Rwy’n teimlo y dylai cynllunio iechyd fod yn ganolog i reolaeth ffermydd gan ei fod yn gwella effeithlonrwydd y fferm ac iechyd yr anifeiliaid, ond hefyd yn helpu i wella’r cyfathrebu a’r berthynas rhwng y milfeddyg a’r ffermwr.”

Am ragor o wybodaeth ar y prosiect ac i ddysgu mwy am weddill y llysgenhadon ewch i wefan HCC

Mae Stoc+ wedi derbyn cyllid gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.