Mr Rees; Mr Duller; Abigail James

Mae ffermwr llaeth o Sir Benfro yn tyfu gwyndonnydd amlrywogaeth er mwyn rhoi hwb i iechyd y pridd a diogelu'r cyflenwad porthiant rhag amodau sych yn ystod y tymor tyfu.

Penderfynodd Andrew Rees, un o Ffermwyr Arddangos Cyswllt Ffermio, ailhadu 5.7 hectar (ha) yn ystod y gwanwyn gan ddefnyddio cymysgedd o hadau amrywiol a oedd yn cynnwys ysgall y meirch, meillion cochion a llyriad.

Roedd yn rhan o'i raglen i wella'r tir yr oedd wedi'i brynu ac i adfer gwndwn hynach lle'r oedd iechyd y pridd yn wael.

Yn ystod y gwaith prosiect gyda Cyswllt Ffermio, cymharwyd perfformiad cymysgedd o hadau amlrywogaeth gyda gwndwn rhygwellt, a dyfwyd yn ymyl ei gilydd mewn dau hanner un cae.

“Buom yn hau'r hadau ym mis Ebrill ac mae'r gwndwn amlrywogaeth wedi bod yn cystadlu'n dda yn erbyn y rhygwellt,”

Dywedodd Mr Rees, sy'n pori ei fuches laeth sy'n lloia yn y gwanwyn o ganol fis Chwefror tan ganol fis Tachwedd.

“Mae wedi bod yn gromlin tyfiant mwy gwastad trwy gydol y tymor, ond yn ystod cyfnodau sych fel y cawsom yn ystod yr haf y llynedd, byddwn yn disgwyl iddo barhau i dyfu am gyfnod hwy na'r rhygwellt gan bod gwreiddiau dyfnion gan y planhigion.’’

Mae gwyndonnydd amlrywogaeth yn cynnig buddion maethol i dda byw, nad ydynt ar gael mewn porfa, ac maent yn rhoi hwb i iechyd y pridd, ond mae'n bwysig dewis cymysgedd sy'n cyd-fynd â'r system da byw.

Yn ystod diwrnod agored a gynhaliwyd yn Moor Farm, dywedodd Chris Duller, arbenigwr annibynnol ym maes glaswelltir a phridd, nad oes cymysgedd safonol, a'i fod yn cynghori pobl i edrych ar wahanol gymysgeddau er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r system.

Er y gall rhywogaethau amrywiol gynnig lefelau uchel o ynni, protein a statws mwynol, nododd y gall y deunydd sych (DM) fod yn isel.

“Gall gwartheg wneud yn dda ar rywogaeth amgen ar ddiwrnod sych, ond pan fo'r tywydd yn wlypach, efallai y byddwch yn darganfod nad ydynt yn gallu bwyta digon i ddarparu'r protein a'r ynni y maent eu hangen er mwyn perfformio,”

Meddai.

Gallant arwain at heriau wrth fesur y gorchudd mewn cae.

“Mae meillion cochion, llyriad ac ysgall y meirch yn tyfu i wahanol uchder, felly gall mesur y gorchudd er mwyn cyfrifo cyfraddau tyfiant beri problemau,” dywedodd Mr Duller.

Cynghorodd ffermwyr i beidio gorbori'r gwyndonnydd hyn, yn enwedig yn ystod yr hydref.

“Gyda gwyndonnydd confensiynol, bydd ffermwyr yn gwybod i bori caeau i 1500kgDM/ha, ond mae gan ysgall y meirch, llyriad a meillion cochion gorunau sy'n gallu cael eu difrodi trwy eu gorbori,”

Dywedodd.

Bydd rhoi sylw i'r manylion wrth ailhadu yn arwain at wyndonnydd a fydd yn perfformio'n well, gan gynnig elw da ar y buddsoddiad, cynghorodd.

“Nid yw ailhadu yn rhad, ond o'i wneud yn dda, gallwch adennill eich holl gostau ailhadu yn ystod blwyddyn gyntaf gwndwn newydd.”

Y pwynt hollbwysig yw bod yn rhaid i amodau'r gwely hadau fod ar eu gorau – dylech brofi statws maethol pridd, gan sicrhau ei fod yn rhydd o chwyn a phlâu.

Defnyddiwyd cnydau bresych yn Moor Farm fel cnwd toriad arloesol er mwyn helpu i gyflawni'r blaenoriaethau hyn.

Mae amseriad y gwaith ailhadu yn hollbwysig – yn nes ymlaen yn y tymor, ceir llai o ddewisiadau er mwyn delio â pherfformiad gwael.

Bydd rheoli chwyn trwy bori, torri neu docio yn mynd yn anoddach yn yr hydref, ac mae chwistrellau yn gallu bod yn llai effeithiol wrth i'r tymheredd ostwng ac wrth i'r diwrnodau fyrhau.

“Ydy, mae'n bosibl y bydd mwy o chwyn os byddwch yn ailhadu yn gynnar yn y flwyddyn, ond mae'n llawer haws delio â nhw,”

Dywedodd Mr Duller.

Dewiswch y gymysgedd hadau cywir ar gyfer y defnydd yr ydych yn bwriadu ei wneud ohono.  Dywedodd Mr Duller bod 75% o hadau glaswellt sy'n cael eu hau yn y DU yn gymysgedd 'torri a phori', a ystyrir yn ddewis diogel gan nifer o ffermwyr.

Ond, nododd:  

“Ni all fod yn wych wrth gyflawni'r ddau, felly byddwch yn cael canlyniad cymedrol yn gyffredinol.  Neilltuwch ychydig amser yn astudio'r Rhestr Glaswellt a Meillion a Argymhellir a dewiswch gydbwysedd cywir y rhywogaethau a'r amrywiadau sy'n addas i'ch amodau chi.”

Gan bod ailhadu yn costio tua £200/erw, dywedodd Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio yn Ne Orllewin Cymru, Abigail James, ei bod yn bwysig gwneud y dewis iawn.

“Er mwyn sicrhau'r elw gorau ar y buddsoddiad, mae'n bwysig rhoi sylw i ffactorau megis ffrwythlondeb y pridd ymlaen llaw,”

Dywedodd.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynorthwyo ffermwyr gyda chyllid o hyd at 100% er mwyn dadansoddi eu pridd.  Trwy wneud cais i Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, gall ffermydd unigol gael cyllid o 80% neu, os byddant yn gwneud cais fel grŵp o dri neu fwy, mae cyllid o 100% ar gael.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.