Dr Heather McCalman

Mae ffermwyr defaid Cymru yn cael eu hannog i rannu eu barn ynghylch cofnodi perfformiad a phrynu anifeiliaid â chofnodion perfformiad mewn arolwg gan Hybu Cig Cymru (HCC). 

Nod yr arolwg yw cael barn ffermwyr Cymru am gofnodi perfformiad a chanfod unrhyw rwystrau y gellid eu dileu fel rhan o Gynllun Hyrddod Mynydd HCC, sy'n ceisio annog y defnydd o gofnodion perfformiad yn y sector mynydd.

Mae'r arolwg ar gael ar-lein ac mae gan y ffermwyr defaid o Gymru sy'n cymryd rhan gyfle i ennill llechen i’w helpu gyda busnes eu fferm.

Dywedodd Dr Heather McCalman o HCC: ‘Rydym yn ymwybodol o ambell beth sy’n rwystr i ffermwyr sydd am gofnodi perfformiad eu hanifeiliaid neu sy’n dymuno prynu anifeiliaid â chofnodion perfformiad. Fodd bynnag, hoffem ganfod sut y gallwn helpu’r diwydiant i oresgyn rhai o’r rhwystrau hyn er mwyn gwneud cofnodi perfformiad yn fwy hygyrch i bawb.

‘Profwyd bod cofnodi perfformiad yn ateb hirdymor i wella perfformiad anifeiliaid a’u gwneud yn fwy proffidiol, a byddai o fudd i’r diwydiant cyfan pe bai’n dod yn fwy hygyrch i fwy o ffermwyr.’

Esboniodd: ‘Mae’n elfen bwysig o’n Cynllun Hyrddod Mynydd sy’n cymell ffermwyr mynydd i ddefnyddio technoleg enetig syml,  ac mae’n caniatáu iddyn nhw gofnodi perfformiad heb orfod gwneud newidiadau sylfaenol i’w systemau.’

Mae modd cael hyd i’r arolwg drwy wefan HCC /  neu yma.

Mae Stoc+ yn un o dri prosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Sheep