Take the plunge.. not a shower

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar, cafodd ffermwyr ac eraill sy’n ymwneud â dipio defaid eu cynghori i ddefnyddio baddon yn hytrach nag unrhyw ddull arall i drin diadelloedd rhag y clafr.

Yr wythnos hon, lansiwyd ymgyrch gan y grŵp Rheoli Parasitiaid mewn Defaid trwy Ddulliau Cynaliadwy (SCOPS) i atgoffa ffermwyr, contractwyr a’r bobl sy’n darparu presgripsiwn taw dim ond mewn baddon y dylid defnyddio dip Organoffosffad (OP).

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn llwyr gefnogi'r cyhoeddiad diweddar, ac fel rhan o Stoc+, sef prosiect iechyd anifeiliaid sy'n gwneud yn siŵr fod ffermwyr ledled Cymru yn cydweithio’n agos â’u milfeddygon wrth gynllunio iechyd anifeiliaid yn rhagweithiol, mae’n annog ffermwyr i ddilyn canllawiau SCOPS.

Dywedodd Lesley Stubbings o SCOPS: “Wrth i ni fynd i mewn i’r hydref a’r gaeaf bydd nifer yr achosion o’r clafr mewn defaid yn cynyddu. Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio OP yn y ffordd fwyaf effeithiol posib, a’r unig ffordd o wneud hynny yw defnyddio baddon.”

Yn 2018, cafwyd achosion o widdon y clafr ag ymwrthedd i driniaethau drwy bigiad. Ers hynny, bu cynnydd yn y defnydd o ddipiau OP. Unwaith y caiff y rhain eu defnyddio’n gywir, ni fydd unrhyw widdon ag ymwrthedd ar ôl yn y ddiadell.

“Fodd bynnag, mae’n amlwg, er gwaethaf rhybuddion i’r gwrthwyneb, fod yna achosion o hyd o ffermwyr yn prynu dip OP ac yna’n defnyddio cawodydd, chwythellau neu chwistrellwyr i drin y defaid,” meddai Lesley.  Mae hyn yn golygu nad yw’r holl widdon yn cael eu difa a bod y clafr yn ymledu hyd yn oed o ddefaid a gafodd eu trin. Yn waeth fyth, gall olygu bod gwiddon sydd ag ymwrthedd i OP yn cael cyfle i ddatblygu – a dyna’r hoelen olaf yn yr arch.” 

Ian Rickman

Mae Ian Rickman, ffermwr Stoc+ o Landeilo sy’n cadw 400 o famogiaid a 100 o ŵyn benyw amnewid, yn defnyddio baddon i ddipio’i ddefaid ers sawl blwyddyn.

“Yn ystod misoedd yr haf, mae’r mamogiaid yn pori ar y Mynydd Du a byddaf yn eu crynhoi o’r mynydd o ddiwedd mis Medi i ddechrau mis Hydref. Fel rhan o brotocol bioddiogelwch y fferm, byddaf yn dowcio’r holl famogiaid dros eu pennau mewn baddon symudol pan fyddan nhw’n dod nôl o’r mynydd – a byddan nhw wedyn yn cael eu troi at yr hyrddod."

“Wrth ddipio cyn gynted ag y bydd y mamogiaid yn cyrraedd o’r mynydd, mae modd atal y clafr rhag cael ei drosglwyddo i ddefaid eraill ar y fferm. Rwy’n siŵr taw dipio yw’r ffordd fwyaf effeithiol.”

Mae rhagor o gyngor a gwybodaeth am ddipio defaid mewn baddon ar gael yn www.scops.org.uk. 

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.