Wrth i gyfraddau ailgylchu Cymru gyrraedd y lefelau uchaf erioed, mae pobl Cymru’n cael eu hannog i barhau â’u hymdrechion ‘gwych’ o ran ailgylchu y Nadolig hwn.

Mae data blynyddol newydd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru* yn dangos bod cyfradd ailgylchu gyffredinol Cymru wedi cynyddu’n fawr eleni – o 63% yn 2018/19 i 65% yn 2019/20, sy’n fwy na’i tharged o 64%.

Gyda 55% ohonom bellach yn ailgylchu mwy nag yr oeddem y llynedd yn ôl y dangosyddion cynnar yn yr Arolwg Tracio Ailgylchu **, mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â WRAP, yr elusen ar gyfer ymgyrch Cymru yn Ailgylchu, yn annog deiliaid cartrefi i barhau â’r gwaith da dros y Nadolig gyda’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd rhif un yn y byd ar gyfer ailgylchu. Cefnogir yr ymgyrch gan yr athletwr eithafol a’r cogydd, Matthew Pritchard.

Gwnaeth yr amcangyfrifon cynnar hefyd ddatgelu bod y cyfnod clo wedi cael effaith gadarnhaol ar ailgylchu gan fod llawer ohonom yn treulio mwy o amser gartref. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin gwnaethom ailgylchu 19% yn fwy o’n gwastraff o’i gymharu â’r un adeg y llynedd***. Roedd cynnydd o 21% mewn ailgylchu gwastraff bwyd, gan greu digon o ynni i gyflenwi 160,152 o gartrefi teuluol nodweddiadol am ddiwrnod cyfan, neu 1.44 miliwn o oergelloedd am 2.5 diwrnod – un oergell ar gyfer pob cartref yng Nghymru.

Gyda’r Nadolig ar y gorwel, mae ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha Cymru yn Ailgylchu yn tynnu sylw at ffyrdd syml y gallwn wneud hyd yn oed yn fwy o ymdrech drwy ailgylchu eitemau Nadoligaidd, megis gwastraff cinio Nadolig sy’n cynnwys esgyrn twrci a chrafion llysiau, casys mins-pei a phecynnau cardbord. Gall hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu’r amgylchedd a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn anfon eu gwastraff bwyd i gyfleuster prosesu arbennig lle y caiff ei droi’n ynni gwyrdd. Mae un cadi yn unig o wastraff bwyd yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi teledu am 2 awr neu oergell am 18 awr.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Dylem fod yn falch iawn o’n hymdrech ailgylchu wych eleni, yn ystod blwyddyn a fu’n heriol i bawb. Mae pawb wedi chwarae ei ran wrth gyflawni hyn, felly dalier ati gyda’r gwaith da.

Rydym wedi datblygu’n fawr ers inni ddechrau ailgylchu fwy nag 20 mlynedd yn ôl. Ond er y dylem ddathlu ein hymdrechion hyd yn hyn, mae yna bethau bach cyflym y gallwn ni gyd ei wneud a fydd yn ein helpu i gyrraedd rhif un.

Mae bron i hanner ohonom yn dal i daflu pethau i ffwrdd yn ein gwastraff cyffredinol a allai gael ei ailgylchu. Felly, beth am wneud ymdrech arbennig y Nadolig hwn i ailgylchu ein gwastraff bwyd ac eitemau Nadoligaidd eraill na fyddem o bosibl yn meddwl ar unwaith y gallwn eu hailgylchu megis casys mins-pei a helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae’r cogydd enwog, yr awdur a’r athletwr eithafol Matthew Pritchard yn cefnogi ymgyrch Cymru i arwain y byd drwy rannu ei awgrymiadau gwych ar sut i ganolbwyntio ar wastraff bwyd y Nadolig hwn gyda fideo sy’n cynnwys rysáit unigryw.

Meddai Matthew:

Nadolig yw’r adeg pan fo pawb yn creu mwy o wastraff ac mae hynny’n arbennig o wir o ran bwyd. Dyna pam dw i’n cefnogi’r ymgyrch wych hon i ddangos pa mor hawdd yw hi i ddefnyddio eich cadi gwastraff bwyd a pham ei fod mor bwysig.

Os ydych chi’n berson lwcus, fel fi, sy’n paratoi eich cinio Nadolig, rhowch y crafion llysiau a choesau ysgewyll Brwsel ac esgyrn a thrimins y twrci yn y cadi gwastraff bwyd. Drwy wneud hynny, ni fyddant yn cael eu gwastraffu. Yn hytrach, byddant yn cael eu hailgylchu a’u troi’n ynni gwyrdd sy’n cael ei ddefnyddio i gyflenwi ein cartrefi. Mae’r un peth yn wir am blicion ffrwythau, masgal wyau a chnau, grownds coffi, bagiau te a chrafion o’r plât. Mae’r holl wastraff bwyd hwn yn adnodd gwerthfawr, felly peidiwch â’i wastraffu!

Gwyliwch fy fideo am ychydig o ysbrydoliaeth ar sut i fwynhau eich llysiau y Nadolig hwn. Mae’n cynnwys rhai ryseitiau hawdd a chyflym yn ogystal ag awgrymiadau ailgylchu gwych ar sut i roi’r holl eitemau bwyd hynny na allwn eu bwyta yn eich cadi gwastraff bwyd.

Dywedodd Carl Nicholas, Pennaeth WRAP Cymru:

Nid lleihau gwastraff yn unig yw ailgylchu. Mae’n gallu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn bwysig iawn mae’n darparu adnoddau i greu deunyddiau newydd.

Mae chwarter o’r hyn rydym yn ei daflu i ffwrdd yn wastraff bwyd felly dros y Nadolig mae cyfle mawr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy’r roi’r holl wastraff bwyd hynny na ellir ei osgoi yn ein cadi gwastraff bwyd yn hytrach nag yn y gwastraff cyffredinol. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru eisiau gwella o ran ailgylchu. Felly os gallwn ni gyd wneud ymdrech wych i ailgylchu ein gwastraff bwyd y Nadolig hwn, byddwn ymhell ar ein ffordd i fod y genedl ailgylchu orau yn y byd.

Rhagor o wybodaeth yma: www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha