Alice Jackson of Market Hall Vets

Mae ffrwythlondeb yn brif flaenoriaeth i ffermydd defaid yng Nghymru mewn prosiect cynllunio iechyd anifeiliaid sy’n cael ei rhedeg gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Mae dros draean o’r 211 o ffermwyr defaid sy’n cymryd rhan ym mhrosiect Stoc+ yn rhoi blaenoriaeth yn eu cynlluniau iechyd i geisio gwneud eu diadelloedd yn fwy ffrwythlon. Mae llawer, hefyd, yn chwilio am gyngor a chymorth pellach i wella’u canrannau ŵyna er mwyn bod yn fwy effeithlon.

Nododd Dora Eynon o Hendy-Gwyn, un o’r rhai sy’n rhan o brosiect Stoc+, bod ffrwythlondeb defaid ymhlith yr argymhellion sy’n rhan o gynllun gweithredu cynllunio iechyd y fferm. Roedd am gael cyfnod ŵyna byrrach drwy gydamseru a chael gwell canran ŵyna. Gan weithio gydag Alice Jackson o Filfeddygon Market Hall, penderfynwyd defnyddio hyrddod ymlid i gyflawni hyn.  

Esboniodd Alice Jackson: “I gael y canlyniadau gorau, dylid cyflwyno’r hyrddod ymlid o leiaf bythefnos cyn troi’r defaid at yr hyrddod magu. Dylai’r ddau fath o hyrddod gael eu cadw allan o olwg, clyw ac arogleuon y mamogiaid am dros fis er mwyn llwyddo. Mae’n bwysig bod yr hyrddod ymlid yn cael eu fasectomeiddio ychydig fisoedd cyn bod eu hangen."

“Un ffordd o gael canran sganio dda yw sicrhau maeth da fel bod sgôr cyflwr y corff rhwng 3 a 3.5 pan fo’r mamogiaid yn cael eu troi at yr hyrddod magu. Fodd bynnag, ni ddylid anwybyddu pwysigrwydd yr hwrdd, a dylai gael archwiliad trylwyr o leiaf 8 wythnos cyn iddo ddechrau ar ei waith.”

Dywedodd Dora, sydd â diadell o 380 o famogiaid croesfrid: “Cafodd tri hwrdd ifanc eu masectomeiddio i fod yn ymlidwyr eleni. Mae Alice wedi fy helpu i gynllunio hyn fel y gallaf ŵyna dros gyfnod byrrach y gaeaf nesaf - a chael gwell canran ŵyna, gobeithio.”

Dr Heather McCalman

Yn ôl Heather McCalman, Cydlynydd Cyflawni Rhaglen HCC, sy’n gweithio’n agos gyda Dora ac Alice, mewn perthynas â’r prosiect: “Gall ychydig o awgrymiadau syml ynghylch rheoli wneud y byd o wahaniaeth i’r canran sganio. Trwy gynllunio ymlaen llaw gyda milfeddyg y fferm, gallwch wneud yn siŵr fod y mamogiaid a’r hyrddod yn y cyflwr gorau posibl ac wedi derbyn unrhyw frechiadau neu driniaethau o leiaf wyth wythnos cyn troi’r mamogiaid at yr hyrddod, ac mae hyn i gyd yn cyfrannu at well perfformiad gan y ddiadell.”

Mae Stoc+ yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch a chaiff gefnogaeth gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.