Mae effaith ddiweddar COVID-19 ar y gymuned busnesau bach wedi bod yn sylweddol. Fel rhywbeth cadarnhaol, mae rhagor o bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig wedi ceisio cefnogi busnesau lleol, ond mae gweithredu neu addasu i'r amgylchedd economaidd presennol wedi bod yn fwy heriol i rai busnesau nag eraill. 

Mae Cwm a Mynydd, y rhaglen datblygu gwledig ar gyfer Caerffili a Blaenau Gwent, yn cynnig sesiynau cymorth a mentora busnes un i un i ficrofusnesau a busnesau bach gyda Design Rally.

Gall y sesiynau mentora archwilio sut rydych chi a'ch busnes wedi ymdopi, pa heriau rydych chi'n eu hwynebu, unrhyw gyfleoedd rydych chi wedi'u darganfod, a beth sydd ei angen i symud ymlaen.

Bydd ymgynghorydd Design Rally, Lynne Elvins, ar gael ar gyfer sesiwn un i un dros y ffôn neu drwy alwad fideo ac wedyn yn cynnig adborth gydag adnoddau perthnasol, cyngor strategol neu gyfeirio at gymorth pellach drwy gydol Mehefin 2020. Gall hyn gynnwys ailedrych ar y cynlluniau busnes tymor hwy a sicrhau bod y busnes wedi'i gyfarparu i gynnal neu addasu sefyllfa farchnata gref drwy'r cyfnod hwn o gynnwrf ac i'r dyfodol.

Mae cymorth ar gael i 15 busnes o bob rhan o ardaloedd cymwys Caerffili a Blaenau Gwent.

Lansiwyd y cymorth gan Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros yr Amgylchedd a Gwasanaethau Cymdogaeth a chadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd, y Cynghorydd Nigel George, drwy nodi, 'Mae busnesau gwledig ar draws Caerffili a Blaenau Gwent yn darparu miloedd o swyddi gan greu cynhyrchion sydd wedi ennill gwobrau ac yn rheoli'r dirwedd sy'n gwneud ein hardaloedd yn gyrchfannau twristaidd ffyniannus.  Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd yn awyddus i ddefnyddio cyllid LEADER i gynorthwyo cymunedau gwledig gwydn a ffyniannus yn ystod y cyfnod heriol hwn.’

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, neu i gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch RhaglenDatblyguGwledig@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 838632. Fel arall, ewch i https://your.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd/cy/hafan

Ariennir y prosiect hwn trwy Raglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.