Billbery

Daw’r cynnig ‘llus am gwrw’ oddi wrth Fragdy’r Hafod, sef bragwyr cwrw crefft o’r Wyddgrug. Bydd y llus ychwanegol yn eu helpu i fragu mwy o lawer nag arfer o’u Cwrw Llus (Bilberry Brew) blasus, mewn da bryd ar gyfer dathliad bwyd a diod Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru yr Hydref yma. 

Bydd gan Bragdy’r Hafod angen 10kilo o’r ffrwythau bach porffor tywyll yma sy’n tyfu’n wyllt ar rostiroedd bryniau Clwyd i wneud y 15 casgen o gwrw a fwriedir. A byddai 100gram yn unig o’r aeron yn rhoi potel o’r cwrw ffrwythaidd 4.5% i’r casglwr. 

Y prif fragwr, Phil Blanchard fydd yn bragu’r cwrw ym Mragdy’r Hafod yn Lôn Nwy (Gas Lane), yr Wyddgrug. Bydd hyn yn rhan o baratoadau’r bragdy ar gyfer eu dathliad ‘Gwledd Hydrefol’ (Oktoberfeast) fydd yn digwydd ar benwythnos Sadwrn 12 Hydref yn ystod Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, - gŵyl fydd yn para dros 40 diwrnod yn ystod tymor yr Hydref, â’r bwriad o ddathlu’r ystod wych o gynnyrch sydd ar gael yn y rhan yma o Gymru.    

Bydd y rhaglen yn para trwy fis Medi, mis Hydref a rhan o fis Tachwedd. Cynhelir 30 o ddigwyddiadau fydd yn arddangos sut y gall ymwelwyr a phobl leol brofi traddodiad coginio cyfoethog yr ardal. Yn ôl y trefnwyr, mae llawer o weithgaredd wedi bod yn barod ar wefan Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru ac ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Cefnogir y rhaglen gan yr asiantaeth adfywio gwledig Cadwyn Clwyd, ynghyd ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.    

Daw’r arian o gronfa o bron i £8 miliwn a weinyddir gan Cadwyn Clwyd o Gorwen, gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau Gwledig 2014-2020. Fe'i hariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG) a gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gynllun chwe blynedd i adfywio cymunedau gwledig a'u heconomïau.

Bydd Cadwyn Clwyd yn cefnogi Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, ond y bwriad ar ôl hynny yw sefydlu digwyddiad blynyddol a hunangynhaliol fydd yn cynnwys profiadau bwyta, teithiau cynhyrchu, arddangosiadau, blasu, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Yn ogystal, byddent yn cyfuno â gwyliau bwyd Llangollen, Yr Wyddgrug a Wrecsam sydd eisoes wedi’u sefydlu.

Mae Martin Godfrey, o Fragdy’r Hafod, wedi bod ar Foel Famau i weld sut gnwd llus sydd yna: “Rydym yn defnyddio llus o Fryniau Clwyd i wneud Cwrw Llus ers rhai blynyddoedd rŵan, ond roedd gennym awydd bragu rhagor eleni,” meddai.  

“Dyma pam da ni’n gofyn i bobl leol ac unrhyw fforiwyr eraill hel llus i ni gael digon i wneud 15 baril. A byddwn yn rhoi cwrw iddyn nhw yn eu lle.  

“Rydym wedi gweithio gyda cheidwaid Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd o’r blaen, ac roedden nhw’n hel llus i ni. Ond rŵan rydym am gynhyrchu mwy o gwrw, felly bydd angen mwy o lus arnom ni. A gan fod fforio mor boblogaidd y dyddiau hyn, roeddem ni’n meddwl y byddai’n syniad gofyn i’r cyhoedd am gymorth.”

Billberry

 

Mae Bragdy’r Hafod yn bragu ers 2011, ac ymhlith yr amrywiaeth o gwrw sydd ganddynt ar werth mewn dros 20 o dafarndai, siopau fferm a bwyd ledled y rhanbarth (yn cynnwys ambell i Wetherpoons) y mae Cwrw Moel Famau, - cwrw tywyll poblogaidd wedi’i wneud gyda grug myglyd o’r un rhostiroedd lle mae’r llus yn tyfu.

Erbyn heddiw maent yn cynhyrchu 6,600 litr o gwrw pob mis, neu tros 11,000 peint, ac maent yn bwriadu bragu 2,500 litr o gwrw llus, - 1,000 litr mewn poteli a’r gweddill o’r gasgen.

Ychwanegodd Martin: “Da ni’n hoffi’r syniad o ddefnyddio cynhwysion lleol.  Mae pobl yn hoffi cwrw sydd â hanes y tu cefn iddo, a bydd y sawl sy’n casglu’r llus yn gwybod eu bod nhw wedi bod yn rhan o’r broses.”

Yn ôl Emma Cornes, Cydlynudd Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru: “Rydym wedi llunio rhaglen o brofiadau unigryw sy'n seiliedig ar fwyd ledled y rhanbarth, a’n dymuniad yw i gynifer o bobl â phosibl ddarganfod, profi a bwyta'r gorau o'r hyn sydd gan Ogledd Ddwyrain Cymru i'w gynnig.

“Mae’r rhaglen yn fyw ar hyn o bryd ar wefan Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru ac ar Eventbrite, felly gallwch chi ddechrau archebu unrhyw brofiad y dymunech. Mae yna gryn drafod ar y cyfryngau cymdeithasol yn barod.

“Os ydych am fynd i rafftio, gweithio mewn gardd gymunedol, mwynhau gwledd ganoloesol, ymweld â fferm wyau neu fynd i fforio, fe gewch chi. A bydd pob un o’r profiadau yma’n fodd i chi brofi blasau unigryw’r ardal hon.”

Yn ôl Donna Hughes, Swyddog Partneriaethau Busnes Cadwyn Clwyd: “Mae Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn cynhyrchu’u siâr o fwydydd gorau’r DU, ac mae Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru wedi llunio cyfres o ddigwyddiadau anhygoel a llawn dychymyg i arddangos hyn.   

“Nid y bwyd yn unig sy’n serennu yma, ond hefyd y dirwedd, y cynhyrchwyr a’r sawl sy’n ei weini. Maen nhw’n haeddu mwy o gyhoeddusrwydd, a da ni'n credu mai dyma fydd y prosiect hwn yn ei wneud.” 

 

Hafod Beer

 

Am fwy o wybodaeth am Cadwyn Clwyd, cysylltwch â nhw ar 01490 340500, e-bost: admin@cadwynclwyd.co.uk neu ewch i www.cadwynclwyd.co.uk/Os am wybod mwy am Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys gwybodaeth am y daflen ddigwyddiadau a sut i archebu, ewch i www.tastenortheastwales.org . Ac os ydych am dderbyn cynnig ‘llus am gwrw’ Bragdy’r Hafod, ewch i http://www.welshbeer.com/ neu cysylltwch â nhw ar sales@welshbeer.com