Rheoli'r oen sy'n tyfu

Bydd cyfle i gynhyrchwyr ŵyn dderbyn cyngor ymarferol gan arbenigwr defaid blaengar yn ymwneud â rheoli ŵyn sy’n tyfu yn ystod cyfres o gyfarfodydd Cyswllt Ffermio a gynhelir ledled Cymru ym mis Ebrill a Mai.

Bydd yr ymgynghorydd annibynnol, John Vipond, yn arwain trafodaeth ar ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar gynhyrchiant, o reoli’r borfa’n effeithiol i reoli llyngyr.

Dywedodd Mr Vipond for y digwyddiadau ‘Rheoli’r Oen sy’n Tyfu’ yn dod ar gyfnod hollbwysig ar gyfer cynhyrchiant ŵyn.

“Mae diffyg incwm o ganlyniad i newid i gymorthdaliadau’n ffocysu’r meddwl,” meddai. “Pan fo hynny’n digwydd ynghyd â gostyngiad sylweddol mewn prisiau ŵyn, mae’n amser gwneud cynlluniau.’’

Mae nifer y dyddiau hyd lladd yn cyfrannu 45% tuag ar broffidioldeb busnes a bydd Mr Vipond yn canolbwyntio ar rai o’r prif flaenoriaethau technegol allweddol sy’n sylfaen i hynny, gan gynnwys rheoli ansawdd y borfa a chyfateb y galw am laswellt gyda’r hyn sydd ar gael. 

Cynhelir y digwyddiad cyntaf ym Marchnad Da Byw Y Trallwng ar 29 Ebrill am 9am. 

Mae’r dyddiadau a’r lleoliadau fel a ganlyn:

Dyddiad  Amser Lleoliad
29/04/19 09:00 - 11:00 Marchnad Da Byw Y Trallwng, Y Trallwng, Powys SY21 8SR
30/04/19 14:00 - 16:00 Cae'r Ffynnon, Dyffryn Ardudwy, Harlech, Gwynedd LL44 2HZ
01/05/19 14:00 - 16:00 Castellior, Pentraeth Road, Porthaethwy, Ynys Môn LL59 5RR
02/05/19 10:30 - 13:00 Hendrephillip, Tregaron, Ceredigion SY25 6QB
02/05/19 17:30 - 19:30 Gludy Isaf, Brecon, Powys, LD3 9PE
03/05/19 11:00 - 13:00 Fferm Bryntail, Rhydyfelin, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf CF37 5LJ

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiadau hyn, cysylltwch â’r Ganolfan Wasanaeth ar 08456 000 813, neu gallwch anfon neges e-bost i farmingconnect@menterabusnes.co.uk

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.