Managing the growing Lamb

Rhaid i ddewis bridiau defaid sy’n pesgi’n gyflym ar borfa gael blaenoriaeth gan gynhyrchwyr cig oen o Gymru cyn y newidiadau i’r system gymhorthdal uniongyrchol.

Dywed yr ymgynghorwr defaid annibynnol John Vipond y bydd anifeiliaid sy’n perfformio yn well ar laswellt, a thrwy hynny yn gostwng costau cynhyrchu, yn sylfaen i broffidioldeb cynhyrchu cig oen yn y dyfodol.

Ond dywedodd wrth ffermwyr oedd mewn cyfres o ddigwyddiadau ‘Rheoli Ŵyn sy’n Tyfu’ yng Nghymru, wrth ddethol bridiau i ddeall y gellir cael mwy o amrywiaeth o fewn brid na rhwng bridiau.

Am y rheswm hwnnw, dywedodd bod raid i ffermwyr gael eu stoc gan fridiwr y maent yn ymddiried ynddo. “Dylai’r bridiwr hwnnw fod yn defnyddio’r un dull â chi.

“Mewn arwerthiannau brid mae tuedd i brynu’r hwrdd mwyaf ond bydd ei faint yn dibynnu mwy ar y porthi nag ar eneteg. Os ydych chi am besgi ŵyn ar laswellt, ewch am hyrddod â chyfraddau tyfu uchel, defaid sydd wedi eu bridio yn naturiol ar borfa yn hytrach na chael eu porthi ar ddwysfwyd.”

Mae cyfraddau tyfu yn cyfrif am 45% o broffidioldeb ŵyn mewn gwrthgyferbyniad â dim ond 5% o ran cydlyniad.

“Edrychwch ar y Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBV). Os ydych yn cadw stoc cyfnewid chwiliwch am bwysau mawr yn wyth wythnos oed ac yn aml bydd mynegai i’r fam sydd yn ddefnyddiol,” dywedodd Mr Vipond.

Cynghorodd na ddylid mynd ar ôl eithafion o ran cydffurfiad. “Canolbwyntiwch ar besgi eich ŵyn yn gyflym.”

Dylai’r targed gyfateb i’r hyn y mae’r farchnad yn ei fynnu – carcas 19kg R3L.

Un dull amlwg o arbed arian yw dwysfwyd – os gwneir mwy o ddefnydd o laswellt, gall y mewnbwn o borthiant a brynwyd gael ei ostwng yn sylweddol neu gellir cael gwared ohono yn llwyr.

Yn rhy aml mae dwysfwyd yn cael ei roi i gynnal rheolaeth ‘lai na pherffaith’ ar bori, gyda grawn yn cael eu defnyddio i ategu at laswellt anodd ei dreulio, awgrymodd Mr Vipond.

Mae’n argymell pori cylchdro ar sail cyfnod tyfu ac uchder y glaswellt.

Gellir llunio system bori syml trwy fonitro’r nifer o ddail ar bob coesyn glaswellt. 

Managing the Growing Lamb

“Mae tyfiant glaswellt yn dilyn y cynhyrchu dail parhaus sy’n ymddangos o waelod y coesyn, mae coesynnau newydd yn ymddangos ychydig uwch ben lefel y gwreiddyn wrth ymateb i bwysedd pori trwm sy’n gadael i olau gyrraedd gwaelod y planhigyn. 

Sail rheolaeth ar bori yw dynodi pryd y mae planhigion wedi cyrraedd y cyfnod pan fydd tair deilen wedi ymddangos – dyna pryd y maent yn barod i’w pori.  

“Os byddwch yn aros yn rhy hir mae gennych dair deilen wedi ymddangos a bydd un neu ddwy yn marw, mae’r pwynt pori gorau wedi bod ond os bydd y glaswellt yn cael ei bori cyn gynted ag y mae tair deilen wedi datblygu, mae’r cynhyrchiant ar ei orau,” dywedodd Mr Vipond.

Mae hirhoedledd mamogiaid hefyd yn allweddol i broffidioldeb – os bydd mamog yn aros yn y ddiadell am flwyddyn ychwanegol bydd yn lleihau’r gyfradd gyfnewid, cyfran fawr o’r costau.

Roedd Mr Vipond yn annog ffermwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol y funud hon. “Mae arnoch naill ai angen penderfynu bod yn ffermwr medrus a bod yn dda yn hynny o beth neu wneud lle i rywun arall.”

I’r rhai sy’n dewis aros yn y diwydiant mae ei gyngor yn gryno: “Tyfwch lawer o laswellt, defnyddiwch o yn effeithlon a chwiliwch am y brid cywir i’w droi yn gig oen.”

Ategwyd rhybudd Mr Vipond am reoli costau gan James Ruggeri, Gweithredwr Datblygu Diwydiant yn Hybu Cig Cymru (HCC). “Os nad ydych yn gwneud arian rŵan, peidiwch â disgwyl i’r prisiau yr ydych yn eu derbyn am eich ŵyn gynyddu.

“Rydym ar lefel lle nad yw’r cwsmer yn barod i dalu mwy am gig oen, mae’n fater o’i gynhyrchu yn rhatach neu mi fyddant yn stopio ei fwyta.”

Ond dywedodd Mr Ruggeri bod llawer o ffermwyr sy’n cynhyrchu cig oen ar elw a bod hynny o fewn cyrraedd pawb.

“Mae’r hyn gewch chi o’r farchnad yn debyg i’r holl ffermydd, rhaid i’r pwyslais fod ar gostau,” mynnodd. “Os ydych chi am barhau yn y busnes, dyna sydd yn rhaid i chi ei wneud wrth symud ymlaen, gostwng eich costau.”

Y fferm westeïo ar gyfer un o’r digwyddiadau oedd Glyndy Isaf, Aberhonddu, lle mae Wynne Rees yn cadw diadell o 1200 o famogiaid Cymreig Talybont a chroes ar 650 erw gyda’i feibion, Lewis a Dewi.

Mae eu hegwyddor i fod yn broffidiol yn syml. “Mae’n rhaid i chi gael cymaint o ŵyn byw â phosibl,” dywedodd Mr Rees.

Er mwyn cyflawni hyn gofalir bod y mamogiaid mewn cyflwr da ac yn gallu cynhyrchu colostrwm o safon uchel a digon o laeth.

Mae gan y teulu Rees dargedau gwerthiant hefyd. “Rydym yn gwerthu cymaint o ŵyn ag sy’n bosibl cyn gynted ag y gallwn. Mae’r defaid croes yn ŵyna yng nghanol Chwefror ac rydym yn ceisio gwerthu cymaint â phosibl erbyn diwedd Mehefin.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.