Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru

26 Medi 2019 - Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys LD2 3SY

Ychwanegu gwerth at eich busnes, buddsoddi yn eich dyfodol, paratoi i lwyddo

Ydych chi’n dymuno arallgyfeirio eich busnes?

Ydych chi’n awyddus i edrych sut i wella cynaliadwyedd a phroffidioldeb eich busnes drwy arloesedd a thechnoleg?

Mae Arloesi ac Arallgyfeirio yn ddigwyddiad a gynhelir am ddim, a bydd yn darparu cefnogaeth cyngor ac arweiniad er mwyn gwella eich busnesau a’ch galluogi i edrych ar syniadau newydd i wella proffidioldeb a chynaliadwyedd.

Cewch gyfle i:

Gwrdd â’r dyfeiswyr, y gwneuthurwyr a’r dosbarthwyr sydd ar flaen y gad o ran yr arloesedd a’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth Dysgu sut mae’r mentrau arallgyfeirio mwyaf llwyddiannus yn ffynnu mewn marchnad gystadleuol Gwireddu eich syniadau drwy fanteisio ar arweiniad, cefnogaeth, hyfforddiant a mentora Cyswllt Ffermio Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Stondinau masnach gan y prif gwmnïau ym maes arloesedd ac arallgyfeirio Ardaloedd seminar gyda sgyrsiau gan ystod o siaradwyr i’ch ysbrydoli ac arwain eich yniadau ynglŷn ag arloesedd ac arallgyfeirio Ardal lle bydd cyngor ymarferol ynglŷn â chyllid a busnes ar gael gyda chyfle i siarad gyda chynghorwyr arbenigol a chyllidwyr Arddangosiadau ymarferol o’r dechnoleg ddiweddaraf ar draws y sector amaethyddol a choedwigaeth

Prif Feysydd:

  • Arloesi – Technolegau a syniadau newydd, y tueddiadau diweddaraf a chyfleoedd ym maes technoleg i’ch cynorthwyo o fewn eich busnes.
  • Arallgyfeirio – Gwybodaeth ynglŷn â’r tueddiadau a’r cyfleoedd diweddaraf ym maes arallgyfeirio, gan gynnwys twristiaeth bwyd, gweithgareddau awyr agored a chnydau amgen.
  • Da byw – Gwneud y gorau o’ch asedau presennol, sut i wneud eich model busnes yn fwy proffidiol drwy gyflwyno technoleg newydd, a gwneud tasgau yn fwy effeithlon.
  • Cyllid a chefnogaeth fusnes – Arweiniad ynglŷn â sut i ddatblygu ac ariannu eich syniadau busnes, er mwyn eich galluogi  i adael y diwrnod gyda chynllun mewn lle.

Mae mynediad i Sioe Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru am ddim, ond gofynnwn i chi fynegi eich diddordeb i fynychu yma