survey

Arolwg yw hwn o unigolion sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen LEADER yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Mae hynny'n cynnwys y rhai sydd wedi cael arian gan y rhaglen, y rhai sy'n ymwneud â rheoli a chyflawni'r rhaglen, aelodau'r Grŵp Gweithredu Lleol ac yn y blaen. 

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal fel rhan o werthusiad o'r rhaglen LEADER yng Nghymru sydd wedi'i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio peth amser yn cwblhau'r holiadur hwn sy'n rhan bwysig iawn o'r gwerthusiad.

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw'n gwbl gyfrinachol a dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y byddai'n cael ei defnyddio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y data a gesglir, sut y caiff ei ddefnyddio a sut y caiff ei storio yma: https://www.wavehill.com/leader-pn

Dyma ddolen i'r holiadur: https://tinyurl.com/LEADERinWales