Mae cynlluniau i ganiatáu i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod yn yr awyr agored wedi eu datgelu gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Daw hyn wrth i’r rheoliadau llym ar aros gartref yn ystod pandemig y coronafeirws gael eu llacio yng Nghymru.

O ddydd Llun, bydd aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i bobl ddilyn arferion llym o ran cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo, i reoli lledaeniad y feirws.

Yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref, i leihau’r risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu o ardal i ardal.

Mae’r newidiadau yn golygu y gall pobl gyfarfod ag aelodau o aelwyd wahanol yn yr awyr agored yn ei hardal leol ond bydd yr holl reolau eraill i ddiogelu pobl rhag y coronafeirws yn parhau ar hyn o bryd.

Mae cyfarfod yn yr awyr agored yn allweddol gan fod y dystiolaeth wyddonol yn dweud wrthym nad yw’r feirws ond yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond ei fod yn goroesi am oriau ar arwynebau o dan do.

Mae’r newidiadau yn dilyn y trydydd adolygiad statudol o’r rheoliadau gan Weinidogion Cymru. Mae’r adolygiad yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae Cymru wedi pasio’r brig cyntaf yn nifer yr achosion o’r haint ac mae’r cyfraddau’n gostwng ond mae’r gyfradd R yn parhau ar 0.8. Mae SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd wedi cynghori na ddylai newidiadau ond gael eu gwneud un cam ar y tro.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:

Rydym yn cydnabod yr hyn y mae pobl Cymru wedi ei aberthu i helpu Cymru i arafu lledaeniad y coronafeirws. Rydw i eisiau diolch i bawb am bopeth y maen nhw wedi ei wneud - drwy lynu wrth y rheolau, rydym i gyd yn helpu i ddiogelu ein gilydd a helpu ein GIG i ymateb i’r pandemig.

Rydym yn gwybod bod pobl yn gweld eisiau gweld eu teuluoedd a’u ffrindiau – mae’r dystiolaeth ddiweddaraf, sy’n sail i’r adolygiad hwn, yn golygu y gallwn wneud rhai newidiadau i alluogi pobl i gyfarfod eto, os yw hynny yn yr awyr agored ac yn lleol, a bod pobl yn parhau i ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Rydym yn dysgu mwy am y feirws hwn bob dydd ac rydym yn gwybod bod y risg o’i drosglwyddo yn is yn yr awyr agored na dan do, Dyna pam, os ydym i gyd yn parhau i gadw ddau fetr i ffwrdd oddi wrth ein gilydd, y bydd aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat.

Fodd bynnag, nid yw risg is yn golygu nad oes unrhyw risg o gwbl. Hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hyn mae’n hanfodol bod pawb yn parhau i gadw pellter cymdeithasol fel y gallwn fynd i’r afael â lledaeniad y feirws hwn.

Nawr ac yn ystod y dyddiau a’r misoedd sydd i ddod mae gennym i gyd gyfrifoldeb personol i sicrhau nad yw ein camau gweithredu yn cyfrannu at ledaeniad y coronafeirws. Plîs helpwch i gadw Cymru’n ddiogel drwy aros yn lleol.

Bydd y newidiadau i’r rheoliadau yn dod i rym ddydd Llun ac yn cynnwys:

  • Caniatáu i aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn yr un ardal leol gyfarfod yn yr awyr agored ar unrhyw adeg benodol ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol. Mae risg isel o’r haint os yw’r rheol cadw pellter corfforol o 2 fetr yn cael ei chadw yn yr awyr agored. Nid oes rhaid i hyn fod yr un bobl o’r un aelwyd bob tro. Mae ‘lleol’ yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref
  • Gall aelodau o’r ddwy wahanol aelwyd gyfarfod mewn mannau awyr agored preifat, megis gerddi, ond daw hyn â risg uwch o haint oherwydd y gallai pobl fod yn gorfod mynd drwy gartref preifat rhywun er mwyn cyrraedd yr ardd. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar y camau y gellir eu cymryd i gadw’r risgiau hyn mor isel â phosibl
  • Caniatáu cynnal priodasau a phartneriaethau sifil os oes gan un o’r partneriaid salwch angheuol.

O ran yr angen i aros yn lleol a pheidio â chymysgu ag eraill oni bai o dan amgylchiadau penodol, bydd rhai eithriadau yn cael eu nodi sy’n debyg i’r rhai sy’n bodoli ar hyn o bryd. Bydd canllawiau yn cael eu darparu o ran yr hyn y mae aros yn lleol yn ei olygu o dan amgylchiadau gwahanol.

Bydd mannau prydferth a safleoedd twristaidd yn parhau ar gau.

Heddiw bydd Prif Weinidog Cymru yn rhoi arwydd y dylai busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n gallu cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol, ddechrau paratoi i ailagor yn ystod y tair wythnos nesaf. Bydd penderfyniad a fydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn ailagor yn cael ei wneud yn ystod yr adolygiad nesaf ar 18 Mehefin a bydd yn dibynnu ar y dystiolaeth wyddonol a meddygol.

Yn ystod yr adolygiad nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer:

  • Ailagor safleoedd manwerthu nad ydynt yn hanfodol
  • Cynyddu’r capasiti ar gyfer gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi mwy o unigolion i ddychwelyd i’r gwaith
  • Hwyluso symud tŷ er mwyn hybu’r farchnad dai
  • Ailagor safleoedd awyr agored, gan gynnwys marchnadoedd awyr agored, cyrtiau chwaraeon, ystafelloedd arddangos yn yr awyr agored ac amgueddfeydd awyr agored
  • Ailagor cyfleusterau i athletwyr elît nad ydynt yn broffesiynol allu hyfforddi’n ddiogel.

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru:

Rwy’n rhoi’r arwydd i fusnesau ledled Cymru y gallant ddechrau’r paratoadau i fod yn barod i ailafael mewn gweithgarwch yn y meysydd hyn pe bai’r dystiolaeth yn cefnogi ailagor.

Bydd hyn yn caniatáu inni ailddechrau gweithgarwch cyn gynted â phosibl os yw’r amodau yn caniatáu hynny. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r sector preifat, yr undebau llafur, busnesau, y trydydd sector ac eraill i gyflawni hyn.