Mae BT Cymru wedi comisiynu'r cwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd Wavehill i ymgymryd ag astudiaeth a fydd yn ymchwilio i'r cyfleoedd economaidd a gyflwynir drwy well band eang, technoleg symudol, 5G a thechnoleg ddigidol ar gyfer y sectorau amaethyddiaeth a thwristiaeth yn Gymru wledig .

Mae gennym ddiddordeb yn y canlynol:

  • Astudiaethau sydd wedi'u comisiynu neu wedi'u cynnal i ddefnydd technoleg ddigidol yn y sector twristiaeth a/neu amaethyddol; a
  • Busnesau yn y naill sector a'r llall a allai fod yn astudiaethau achos da ar gyfer budd manteisio ar dechnoleg ddigidol.

Os gallwch chi helpu, neu os hoffech chi drafod yr astudiaeth ymhellach, cysylltwch ag Endaf Griffiths o Wavehill: (01545) 571711 neu endaf.griffiths@wavehill.com

Diolch i chi ymlaen llaw am unrhyw gymorth y gallech ei ddarparu.