Mae strategaeth sy’n golygu ychwanegu bacteria nad yw’n heintus i amgylchedd ieir ar fferm wyau maes yng Nghymru yn lleihau’r lefelau amonia sy’n gallu effeithio ar iechyd yr adar.

Gosodwyd synwyryddion drwy’r sied yn Wern, ger y Trallwng, fel rhan o waith y fferm fel safle arddangos Cyswllt Ffermio.

Mae’r rhain yn mesur y lefelau amonia a charbon deuocsid yn ogystal â’r tymheredd a’r lleithder yn y sied sy’n dal 32,000 o adar; maent hefyd yn tanio offer creu niwl i chwistrellu bacteria nad yw’n heintus ar adegau penodol pan fo’r data y mae’r synwyryddion yn ei gasglu yn gweld cynnydd.

Yn ystod digwyddiad Yn Fyw o’r Fferm Cyswllt Ffermio o Wern, dywedodd Aled Davies, o Pruex, y bydd straeniau diniwed o facteria a geir o’r pridd yn disodli’r bacteria niweidiol mewn tail er mwyn atal yr asid wrig rhag cael ei drosi yn amonia.

Mae amonia yn gwneud brechlynnau yn llai effeithlon, mae’n gallu achosi niwed i yddfau ieir a chynyddu’r cyfraddau marwolaethau ond, drwy ddylanwadu ar yr amgylchedd, gallwch wella iechyd yr adar i’r eithaf, meddai.

Yn 77 wythnos oed, mae cyfraddau marwolaethau’r ieir yn Wern yn 3.7%, mae’r adar yn perfformio’n eithriadol o dda, gyda phob iâr yn dodwy 359 o wyau sy’n pwyso 65g ar gyfartaledd.

Ond mae Osian Williams, sy’n ffermio â’i rieni, Dafydd ac Eleri, a’i bartner, Nikki, yn awyddus i fod yn fwy effeithlon fyth drwy’r prosiect hwn a gynhelir gan Cyswllt Ffermio.

“Niferoedd sy’n bwysig mewn busnes cynhyrchu wyau, ac mae’n rhaid inni fod mor effeithlon â phosibl,” meddai.

Mae’r amgylchedd mewn sied ddofednod yn iach pan geir ynddi fwy o facteria diniwed na’r mathau niweidiol.

Mae bacteria hefyd yn cael ei ychwanegu i’r dŵr yn Wern, er mwyn atal bioffilmiau niweidiol rhag ffurfio, a chaiff fitaminau a pherlysiau hefyd eu cyflwyno i roi hwb pellach i iechyd yr ieir ac i frwydro yn erbyn sialensiau fel gwiddon coch.

“Gwyddom y gallwn fesur lefelau amonia dros amser, a drwy ychwanegu bacteria nad yw’n heintus i’r dŵr i wella’r ansawdd, gallwn ysgafnu’r baich ar system imiwnedd yr adar,” meddai Mr Davies, sy’n gweithio ar y prosiect gyda’r teulu Williams.

“Mae ffermwyr yn bobl ymarferol, os gwelant dwll mewn ffens gallant ei drwsio, ond ni allant weld amonia a bacteria ac mae dadansoddi data yn eu galluogi i wneud hynny.

“Rydyn ni’n amgylchynu ieir â thail, asid wrig ac amonia ond os gallwn ysgafnu’r baich sydd arnynt drwy leihau’r lefelau amonia, fe wnânt dalu’n ôl inni mewn wyau a bydd llai ohonynt yn marw.”

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.