Mae prosiect marchnata digidol newydd yn ceisio hyrwyddo Bae Abertawe fel un o'r cyrchfannau twristiaid mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig! Gyda gwefan newydd wych i'w gefnogi.

Mae Bae Abertawe Heb Garyn mynd ati'n ddigidol i hyrwyddo twristiaeth fwy gwyrdd, gan annogymwelwyr i ddarganfodei arfordir trawiadol a'i gefnwlad wledig trwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus, seiclo neu ar droed.

Mae'r wefan BayTrans yn torri tir newydd - nid yw'n rhoi 'gwybodaeth' yn unig - mae'n mynd ymhellach, mae'n hyrwyddo ein hardal anhygoel trwy roi gwybodaeth gynhwysfawram fysiau, cerdded, seiclo a thocynnau/apiau/amserlenni; ac yn annog pobl i fynd allan a mwynhau heb draffig!

Mae'r prosiect hwn yn fenter ar y cyd rhwng yr aelod-sefydliaid, Twristiaeth Bae Abertawe, a'r bartneriaeth cludiant cynaliadwy, BayTrans, wedi'i gefnogi gan Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe, a'i ddatblygu ar y cyd gan John Davies o BayTrans a Dean Jeffery o Dwristiaeth Bae Abertawe.

Mewn digwyddiad arbennig (17 Mehefin) yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr, bydd Mark Thomas, aelod cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Rheoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd, yn lansio ochr yn ochr â rhes o fysiau, seiclwyr a cherddwyr. Dywedodd y Cyng. Thomas:

"Rwy'n llawn canmoliaeth i'r fenter sy'n arddangos y modd y bydd y rhwydweithiau cludiant cyhoeddus, seiclo a cherdded yn allweddol o ran tyfu'r farchnad ymwelwyr ac ehangu gorwelion hamdden ein dinasyddion. Mae'r Cyngor yn gefnogol o fysiau gwledig, yn enwedig ar y Gŵyr, ac yn arwain o ran datblygu seiclo a cherdded".

Dywedodd Stephen Crocker, Cadeirydd Twristiaeth Bae Abertawe,

"Croesawaf y fenter hon, y mae disgwyl iddi ddenu mwy o ymwelwyr 'nawr y gwelir bod ardal yn hygyrch i bawb, ni waeth sut y maent yn teithio. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn ac sydd wedi gweithio mor galed i wireddu'r prosiect."

Dywedodd Andrew Sherrington, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni bysiau First Cymru,

"fel y prif gwmni bysiau ym Mae Abertawe, croesawaf y fenter hon, sy'n cysylltu ag ap gwybodaeth amser real ein cwmni, ac sy'n ffordd bwysig o annog pobl i newid i ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy."

Mae'r llefarydd ar gyfer Cerddwyr Abertawe, Richard Beale, 'yn falch iawn o gefnogi'r prosiect, a bydd y cyfegni rhwng cludiant cyhoeddus a cherdded, yn arbennig, yn helpu i agor y drysau i'r ardal a'i llwybr arfordir eiconig, yn ogystal â'i llwybrau eraill, i bawb'.  

Mae Nick Guy, Ysgrifenydd y grŵp ymgyrchu ar gyfer seiclo, Wheelrights, 'yn falch y bydd y fenter hon yn agor y drws i'r ardal anhygoel hon a'i chyfleoedd niferus ar gyfer seiclo'.

Mae'r prosiect hwn wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.