Mae technoleg ddigidol wrth wraidd bron pob agwedd ar fywyd cyfoes sy'n ymwneud â gwaith, teithio, hamdden ac iechyd, a bellach mae mynediad da i'r rhyngrwyd yn cael ei ystyried gan lawer fel cyfleuster angenrheidiol. Mae cysylltedd cyflym, dibynadwy yn hanfodol i gefnogi twf busnesau, helpu cymunedau gwledig i ffynnu, gwella iechyd a llesiant, a'i gwneud yn haws i bobl fynd ar-lein a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. 

Fodd bynnag, nid yw llawer o breswylwyr yn gwybod am y gwasanaethau y gallant eu derbyn neu nid ydynt yn gallu derbyn cyflymderau digonol i allu mynd ar-lein a chael mynediad at wasanaethau o ddydd i ddydd. 

Mae llawer o gartrefi ledled y wlad yn cael eu huwchraddio bob dydd trwy gynlluniau masnachol neu gymorth gwladwriaethol felly mae'n bwysig eich bod yn gwybod pa gyflymderau y gallech fod yn eu derbyn. Mae modd i chi gael gwybod am hyn drwy ffonio eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd.

Os nad oes digon o fand eang ar gael yn eich eiddo, mae yna opsiynau eraill ar gyfer cael y cyflymderau band eang sydd eu hangen arnoch chi. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol i osod band eang cyflymach. 

Mae Llywodraeth Cymru yn rhedeg cynllun sy'n darparu cymorth i gartrefi a busnesau trwy roi grantiau i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd. Mae'r cynllun yn rhoi grant o hyd at £800 i dalu cost y gwaith gosod ac mae'n dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd. Gall hyn gynnwys datrysiadau band eang 4G, diwifr sefydlog neu loeren. 

Mae cymorth ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gysylltu cymunedau gwledig â band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit o'r enw cynllun Taleb Gigabit Gwledig. Mae'r Llywodraeth yn darparu gwerth hyd at £210m o gyllid talebau fel cymorth ar unwaith i bobl sydd â band eang araf mewn ardaloedd gwledig. Mae talebau gwerth hyd at £1,500 ar gyfer cartrefi a £3,500 i fusnesau yn helpu i dalu costau gosod band eang gigabit ar stepen drws pobl. Gall y rhai sydd â chyflymder band eang o lai na 30mbps fod yn gymwys i gael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau hyn. Gallai hyd at £3000 fod ar gael fesul cartref a £7000 fesul busnes i'ch helpu chi i ariannu eich datrysiad cymunedol.

Os nad ydych chi'n rhan o gymuned sydd angen band eang cyflymach mae yna opsiynau ar gael ar gyfer eiddo unigol. Menter gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO) a sefydlwyd i roi'r hawl gyfreithiol i aelwydydd a busnesau ofyn am gysylltiad band eang fforddiadwy priodol. 

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin swyddog cysylltedd digidol a all helpu gyda'ch ymholiadau. Gallwch gysylltu drwy anfon e-bost at cejenkins@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio 07929751998. 

Fel arall, gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i'r gwefannau isod: 

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 'Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru', a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.