(From left to right) James Hooton of Hooton’s Homegrown and Luke Tyler

Mae berwr y dŵr a dyfwyd ar un o ffermydd fertigol cyntaf yr ynys wedi gwerthu allan mewn oriau yn siop fferm Hooton’s Homegrown, Brynsiencyn.

Mae James Hooton a'i deulu yn adnabyddus am dyfu ffrwythau a llysiau o ansawdd a magu eu da byw eu hunain. Tyfwyd eu cynnyrch diweddaraf, berwr y dŵr, fel rhan o brosiect ‘TechTyfu’ Menter Môn, gyda James yn un o 3 tyfwr masnachol yng Ngwynedd ac Ynys Môn i dreialu system tyfu fferm fertigol arloesol.

Derbyniodd y teulu gefnogaeth gan TechTyfu, prosiect a grëwyd gan Menter Môn, i sefydlu fferm fertigol yn eu siop fferm ym Mrynsiencyn dros yr Haf.  Mae berwr dŵr Ynys Môn yn cael ei dyfu mewn uned fferm fertigol, sy'n defnyddio system hydroponeg i bwmpio toddiannau llawn maetholion i'r cnwd planhigion, gan alluogi tyfiant effeithlon a glân heb bridd.

“Mae fy nheulu wedi bod yn ffermio yma ers dechrau’r 1960au,” esboniodd James Hooton, “a berwr y dŵr yw’r cynnyrch diweddaraf rydyn ni’n ei dyfu i gyflenwi ein siop fferm, Hooton’s Homegrown.”

“Rydyn ni wedi bod yn defnyddio hydroponeg i drin cnydau ers blynyddoedd lawer, fel gyda’r mefus y byddwch chi'n eu gweld ar ein safle pigo mefus eich hunain. Fodd bynnag, dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio system fferm fertigol.

“Mae rhwyddineb defnyddio’r system hon wedi creu argraff arnaf,” meddai James. “Mae gallu treialu’r system trwy brosiect TechTyfu wedi dangos i mi fod y system yn gweithio’n dda ac yn cynnig nifer o fanteision. Rydym yn bwriadu treialu'r system ymhellach trwy dyfu cnydau eraill fel egin pys a pherlysiau amrywiol."

“Mae berwr y dŵr yn ffynhonnell wych o fitaminau a mwynau. Mae'n ddeilen fach werdd arbennig, ac mae ein cwsmeriaid wedi bod wrth eu bodd â blas ac ansawdd y berwr dŵr yr ydym wedi'i gynhyrchu ar yr ynys.”

James Hooton of Hooton’s Homegrown, Brynsiencyn, Anglesey has been

 

O’i gymharu, mae berwr y dŵr yn cynnwys mwy o galsiwm na llaeth, mwy o ffolad na bananas, mwy o Fitamin C nag orennau a mwy o Fitamin E na brocoli. Mae'n faethlon iawn ac yn cynnwys mwy o wrthocsidyddion na gweddill y teulu Brassica y mae'n perthyn iddo.

“Gyda misoedd y gaeaf o’n blaenau, mae cynnwys maeth y berwr dŵr yn sicr o apelio at ein cwsmeriaid ac mae’r fferm fertigol yn rhoi’r gallu inni gynhyrchu’r bwyd rhyfeddol hwn trwy gydol y flwyddyn,” rhannodd James.

Meddai Luke Tyler, sy’n arwain y prosiect “Mae ein prosiect yn helpu i leoli cynhyrchu bwyd yng Ngogledd Cymru i fod yn fwy gwydn, ac agor drysau i ffermwyr, busnesau a bwytai sy’n chwilio am ffyrdd strategol o arallgyfeirio. Mae poblogrwydd Berwr Dŵr Ynys Môn yn profi bod galw mawr am gynnyrch ffres, lleol.”

Mae TechTyfu yn creu fforwm rhannu sgiliau ac yn gweithio ar y cyd â thyfwyr lleol a busnesau bwyd i ddatblygu cadwyni cyflenwi.

“Tyfu yn aml yw’r agwedd symlaf ar gael cynnyrch lleol i’r farchnad,” nododd Luke. “Yr her wirioneddol sydd ar ein dwylo gyda TechTyfu yw datblygu’r cadwyni cyflenwi fel bo pob partner ar hyd y ffordd yn gwneud elw a chynnyrch ffres yn cyrraedd y cwsmer mewn cyflwr rhagorol.”

Ers dechrau cydweithio gyda TechTyfu eleni, ac er gwaethaf yr amodau economaidd heriol, mae drysau newydd wedi agor i dyfwyr fel James Hooton.

“Rydyn ni wedi datblygu ein cadwyn gyflenwi ein hunain ymhellach ers cydweithredu â TechTyfu,” meddai James.

"Rydyn ni wedi sefydlu llwybr newydd i’r farchnata gyda dosbarthwr cynnyrch ffres lleol, ac roedd yn wych gweld ein riwbob yn cyrraedd amryw o fwytai lleol.”

Yn ogystal â berwr y dŵr, mae'r prosiect eisoes wedi nodi cyfleoedd lleol ar gyfer cnydau arbenigol fel egin pys ac ystod o ddeiliach bach.

“Ein hamcangyfrif yw bod y farchnad ar gyfer egin pys yn unig werth tua £ 40-50k yng Ngwynedd ac Ynys Môn,” nododd Luke. “A thrwy eu tyfu’n lleol, byddai tyfwr yn gallu cynnig ffresni diguro. Rydym eisoes wedi cael cogyddion lleol amlwg yn gofyn ble y gallent brynu egin pys lleol.”

Mae TechTyfu yn brosiect sy'n cael ei redeg gan Menter Môn. Gellir cysylltu â Luke Tyler yn luke@mentermon.com a gellir dilyn y prosiect ar Facebook a Twitter.

Mae TechTyfu wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.