Newtown wellbeing project

Agor Drenewydd, sef ymddiriedolaeth datblygu annibynnol a menter gymdeithasol, sydd wedi derbyn y cyllid; wrth galon ei waith yw rheoli 130 erw o fannau gwyrdd yn y Drenewydd. 

Mae’r Drenewydd wedi llwyddo i dderbyn buddsoddiad gwerth £723,000 gan Lywodraeth Cymru i lansio cyfres o brosiectau partneriaeth lleol er mwyn gwella llesiant a gwydnwch pobl a busnesau’r dref.

Bydd Agor Drenewydd yn cydlynu pum partneriaeth a seilir ar natur, fydd yn gweithio gyda phobl a busnesau ar gynlluniau peilot a seilir ar ffyrdd newydd o reoli adnoddau naturiol y Drenewydd mewn ffordd gynaliadwy, gyda’r nod o sicrhau fod y dref yn lle hyfyw a bywiog i fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Bydd y pum prosiect yn canolbwyntio ar lesiant mewn mannau gwyrdd, meithrin busnesau gwydn, ffermio cynaliadwy, pobl ifanc yn cynllunio dyfodol cynaliadwy a digwyddiadau a seilir ar natur. 

Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r prosiectau newydd hyn; cyllidir y rhaglen gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru hyd at fis Mehefin 2023.

Bydd y prosiect Llesiant mewn Mannau Gwyrdd yn golygu y bydd Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Cydweithfa Cultivate ac Oriel Davies yn gweithio mewn partneriaeth i ddefnyddio natur, bwyd a chelf mewn mannau gwyrdd y dref i gyflwyno gwasanaethau iechyd a llesiant.

Meddai Pennaeth Llesiant Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Carla Kenyon “Mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn falch iawn i fod yn bartner yn y prosiect cyffrous yma, ac mae’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn mentrau llesiant a natur er budd pobl sy’n byw o fewn ac yn ardal Y Drenewydd yn anogaeth fawr inni”.  

Mewn partneriaeth gyda chymdeithas Ponthafren, Economi Cylchol Canolbarth Cymru a Chronfa Bancio Cymunedol Robert Owen, bydd y prosiect Meithrin Busnesau Gwydn yn cynnig cymorth ym maes llesiant i berchnogion a staff busnesau, archwiliadau o ran effeithlonrwydd amgylcheddol a chronfa benthyg yr economi cylchol i gynnig gwasanaethau cymorth i fusnesau’r dref.

Gyda’u partneriaid Cronfa Bancio Cymunedol Robert Owen ac Ymddiriedolaeth Afon Hafren, bydd prosiect Ffermio Cynaliadwy Agor Drenewydd yn cefnogi grŵp o 25 o ffermwyr Blaen Hafren sy’n agos at y dref i gyfoethogi dulliau rheoli tir a dŵr a bioamrywiaeth.

Trwy’r prosiect Cenhedlaeth Un Blaned bydd Agor Drenewydd yn gweithio gyda phobl ifanc leol i ymchwilio i’n heffaith amgylcheddol, a’r hyn y gallwn ei wneud fel cymuned ac unigolion, i leihau’r effaith yma. Bydd y prosiect hefyd yn datblygu rhaglen o weithgareddau awyr agored, a seilir ar natur ar gyfer plant lleol yn y Drenewydd.

Bydd Agor Drenewydd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Oriel Davies ar brosiect Digwyddiadau Agored i ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol er mwyn dathlu adnoddau naturiol y dref.

Lynne Burns fydd yn rheoli’r pum prosiect, a dywedodd “Mae’n newyddion gwych ein bod wedi derbyn cyllid ENRaW. Mae’r prosiectau hyn yn cyfuno partneriaeth gadarn o sefydliadau lleol er mwyn cydweithio mewn ffordd sy’n galluogi cysylltu ein hadnoddau naturiol â llesiant pobl.

“Trwy ymgysylltu â phobl a busnesau, ein nod yw rhedeg cynlluniau peilot a datblygu gwasanaethau cymorth hyfyw a seilir ar ein hasedau naturiol yn y Drenewydd. Bydd y prosiectau’n profi’r hyn y gall cymunedau ei wireddu, gyda’r cymorth cywir, mynediad at dir a rhyddid i wneud yr hyn maent yn ei wneud orau.

Bydd un o’r prosiectau mwyaf cyffrous yn golygu y bydd pobl ifanc Y Drenewydd yn gweithio gyda Kerala Irwin, swyddog ymgysylltu â phobl ifanc Agor Drenewydd, wrth ymchwilio i ôl troed ecolegol Y Drenewydd a chynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy i’r dref.”