Siop.io Logo

Yn ystod y cyfnod clo 2020, comisiynodd Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) ac Arloesi Môn ymchwil a darganfod bod Covid-19 wedi achosi i gwsmeriaid newid y ffordd y maent yn siopa.

Trodd llawer o bobl at siopau lleol fel y cigydd a’r becws lleol, a chafwyd enghreifftiau gwych o fusnesau yn addasu’r ffordd y maent yn cynnig eu cynnyrch / gwasanaeth e.e. cynnig gwasanaeth dosbarthu, cydweithio â busnesau lleol eraill. Gwelsom hefyd newid dramatig mewn siopa ar-lein yn ystod y pandemig. Yn ddiweddar dywedodd Sainsbury’s, ail archfarchnad fwyaf y DU, fod 40% o’i werthiannau bellach ar-lein - o’i gymharu â 19% flwyddyn yn ôl.

Trwy'r ymchwil hon daeth yn amlwg bod angen ap / gwefan a fyddai'n galluogi busnesau bwyd a diod lleol i werthu eu cynnyrch ar-lein. Siop un stop tebyg i Amazon, ond lle mae’r holl fusnesau'n lleol!

Mae Siop.io yn ap a ddatblygwyd gan Kodergarten, tîm o ddatblygwyr o Gymru, a fyddai’n galluogi busnesau i wneud hyn. Mae Paul Sandham o Kodergarten yn esbonio sut y bydd yr ap yn gweithio “Gyda gwefan / ap Siop.io, gall cwsmeriaid nodi eu cod post yn y system, a fydd wedyn yn rhestru'r holl fusnesau sy'n gwasanaethu yn eu hardal. Yna mae cwsmeriaid yn dewis y cynnyrch mae nhw eu heisiau ac yn talu amdanynt ar-lein. Yna mae ganddyn nhw'r opsiwn o ddanfon y cynnyrch i'w cartref neu ei gasglu'n uniongyrchol o'r busnes. "

Mae AGW ac Arloesi Môn yn chwilio am 15 busnes yng Ngwynedd a 15 ar Ynys Môn i gofrestru a threialu'r ap hwn. Maent yn chwilio am fusnesau sy'n cwrdd â'r meini prawf canlynol:

1. Busnes Bwyd a Diod Annibynnol
2. Wedi'i leoli yng Ngwynedd neu Ynys Môn
3. Ddim gyda system werthu ar-lein ar hyn o bryd neu hefo un sydd yn annigonol

Mae Rhys Gwilym, Swyddog Prosiect yn AGW yn egluro mwy “Byddwn yn gweithio gyda’r busnesau ac yn eu cefnogi wrth iddynt ddechrau defnyddio’r ap e.e. eu helpu i uwchlwytho eu cynnyrch, egluro’r broses dalu. Gwelsom gymaint o gefnogaeth i fusnesau lleol yn ystod y cyfnod clo cyntaf, rydym yn gobeithio y bydd yr ap hwn yn helpu pobl i barhau â'r gefnogaeth honno."

I ddysgu mwy am yr ap mae AGW ac Arloesi Môn yn cynnal digwyddiad dros zoom gyda'r datblygwyr. Ddydd Mawrth 10fed o Dachwedd am 7pm byddant yn dangos sut mae'r ap yn gweithio ac yn ateb cwestiynau. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ac i dderbyn y ddolen zoom ewch i -https://bit.ly/2HYvE13 

Os ydych chi'n fusnes bwyd a diod ac yr hoffech gael eich ystyried, cwblhewch y ffurflen gais sydd ar gael yma: https://bit.ly/3516Q1a erbyn 13eg Tachwedd 2020.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.