HCC yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd

Erbyn hyn, gall cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru fwynhau gwell dewis o lawer o gig a bwydydd eraill o ansawdd uchel sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol, diolch i ymrwymiad newydd gan y cwmni trenau i ddefnyddio cynnyrch Cymreig.

Ymunodd Hybu Cig Cymru (HCC) â chwmni Trafnidiaeth Cymru yr wythnos hon i ddathlu'r datblygiad mewn lansiad yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd.

Mae’r cynnyrch o Gymru a brynir gan y cwmni yn cynnwys cig eidion, cig oen a selsig porc; caws, bisgedi a diodydd.  Mae hyn yn golygu y bydd mwy o gynhyrchion â brand Cymru ar gael i deithwyr mewn cerbydau Dosbarth Cyntaf.

Mae HCC hefyd yn darparu deunydd darllen i deithwyr, sy’n esbonio sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru ac sy’n egluro rhagoriaethau ac olrheinedd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI.

“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a’u cyflenwyr mewn datblygiad cyffrous sy’n gam pwysig o ran caffael bwyd lleol,”

Meddai Emily Rees, Swyddog HCC ar gyfer Datblygu'r Farchnad ym Mhrydain.

“Mae’r cwmni sy’n rhedeg ein trenau yng Nghymru yn dangos ei ymrwymiad i gynhyrchwyr bwyd o Gymru,”

Ychwanegodd Emily.

“Yn ogystal â’r hwb uniongyrchol y mae prynu’r bwyd yn ei roi, mae hefyd yn ffordd wych o roi cyhoeddusrwydd i’n bwydydd nodedig. Dyna pam rydyn ni manteisio ar y cyfle i ddarparu gwybodaeth am y ffordd gynaliadwy y mae ein cig coch yn cael ei gynhyrchu, mewn taflenni a llyfrynnau y gall pobl eu darllen ar eu taith.”

Dywedodd Mike Brown o Drafnidiaeth Cymru:

“Yng Nghymru rydym yn ffodus o gael rhai o'r cyflenwyr bwyd a diod gorau yn y diwydiant, gydag enw da am ansawdd yn fyd-eang.

“Felly, trwy weithio mewn partneriaeth â Hybu Cig Cymru a chydweithio â chyflenwyr, rydym yn sicrhau taw dim ond y bwydydd gorau y mae ein cwsmeriaid yn eu mwynhau wrth deithio gyda ni.

“Mae arlwyo ar drenau wedi gwella'n aruthrol ers y brechdanau yn nyddiau Rheilffyrdd Prydain, a gallwn ymfalchïo nawr yn ein bwyd a diodydd.

“Trwy wneud yr ymrwymiad hwn, rydyn ni'n gwybod bod ein buddsoddiad yn cyfrannu at  y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, ac yn cefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd eraill yn yr ardaloedd hynny.”