Weaving

Mae pum canolfan grefftau yn cael eu sefydlu ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o fenter newydd £61,000 gyda’r nod o gynhyrchu swyddi a chreu cyfleoedd lle y gall pobl gymdeithasu, rhannu eu sgiliau a gwella eu galluoedd.

Yn seiliedig mewn adeiladau yn Abercynffig, Pontycymer, Cwm Ogwr, Newton a Gogledd Corneli, bydd Cydweithfa Grefftau Pen-y-bont ar Ogwr yn agored i grefftwyr profiadol yn ogystal â dechreuwyr newydd, a bydd aelodau yn derbyn hyfforddiant mewn ymarfer busnes, marchnata digidol a sgiliau cysylltiedig eraill.

Trefnwyd y Gydweithfa Grefftau mewn partneriaeth rhwng tîm Reach Pen-y-bont ar Ogwr ac Eclipse Gift Wrapping ac mae wedi ei hariannu’n llawn drwy’r Cynllun Cymunedau Gwledig Ffyniannus.

Bydd y Gydweithfa yn sefydlu cyfleoedd i arddangos a gwerthu gwaith aelodau mewn ffeiriau crefftau ac arddangosfeydd mewn lleoliadau o bwys, marchnadoedd crefftau, llwybrau crefftau, siopau dros dro a rhagor.

Gobaith y fenter yw sefydlu rhwydwaith lleol o fusnesau crefftau, a chaiff ei lansio yn yr Eglwys Gymunedol yn Heol Pandy, Abercynffig, am 2.00p.m. Ddydd Gwener, y 14eg o Fedi.

Meddai’r Cynghorydd Charles Smith, Aelod o’r Cabinet dros Adfywiad ac Addysg, “Mae Gwaith Crefft wedi profi hwb enfawr mewn poblogrwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a does dim rhaid i chi ond edrych ar faint o ‘‘entrepreneuriaid hobi’ sy’n gwerthu ar-lein y dyddiau yma i weld hyn.

“Gyda manteision ychwanegol fel mentora busnes ar gael, mae’r Gydweithfa Grefftau yn cynnig cyfle ffantastig i drigolion dawnus i sôn wrth bobl am eu gwaith, gwella eu sgiliau a threulio amser gyda phobl greadigol eraill o’r un feddwl.

“Mae’r diolch i gyllid Ewropeaidd am wneud y fenter hon yn bosibl, ac rwyf yn ddiolchgar i’r grŵp gweithredu lleol am flaenoriaethu cyllid yr UE.”

I gael gwybod rhagor, ewch i www.craft.bridgendreach.org.uk, neu chwiliwch am ‘Cydweithfa Grefftau Pen-y-bont ar Ogwr’ ar Facebook a ‘@BridgendCraft’ ar Twitter.

Mae’r prosiect wedi derbyn arian drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig  2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.