Lydia and her pigs

Gyda nifer o gynhyrchwyr moch wedi dechrau paratoi ar gyfer y Nadolig, mae Lydia Johnston sydd yn wreiddiol o’r Iseldiroedd a’i phartner o Tyn y Ddol Dyffryn Cownwy, Llanwddyn yn gyffrous iawn, ac wedi bod yn paratoi ar gyfer ei blychau porc Nadoligaidd arbennig ers misoedd.

Heb unrhyw gefndir na phrofiad amaethyddol symudodd Lydia a'i phartner i Tyn Y Ddol gyda thair erw o dir yn 2017 gyda'r syniad o gadw moch. Fel cogydd i'r cyngor lleol yn Swydd Gaerhirfryn nid oedd gan Lydia unrhyw brofiad o gadw moch, dim ond coginio porc!

“Cyn i ni symud yma i Gymru roeddem wedi eistedd o amgylch y bwrdd a siarad a siarad am y gobaith o gadw moch a phum mis ar ôl cyrraedd yma cyrhaeddodd ein moch Oxford Sandy Black cyntaf. Roedd o mor gyffrous!” 

Ers hynny mae’r cwpwl wedi mynd ati i fagu moch ac mae ganddynt faedd magu o'r enw “Boris” a 4 hwch fagu.

“Roedd gennym ni ychydig o waith ar ein dwylo ar ôl cyrraedd yma, roedd yn rhaid i ni adeiladu 12 twlc mochyn o’r dechrau ac uned famolaeth. Roeddem yn gwneud popeth ein hunain, ond mae'r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed,” ychwanegodd.

Heddiw mae Lydia yn ei elfen gyda'r moch.

“Dwi’n credu bod moch i fod yn yr awyr agored! Rydyn ni'n eu hanfon allan yn 3 - 4 wythnos oed ac maen nhw'n dechrau gwreiddio bron yn syth. Mae'n nodwedd enetig, unigryw gan foch! Rwy'n teimlo eu bod yn tyfu'n arafach ac yn cynhyrchu gwell cig pan fyddant yn cael eu magu tu allan. Mae'r Oxford Sandy Black yn frid brodorol ac maen nhw'n cynhyrchu ychydig o fraster, ond mae angen rhywfaint o fraster arnoch chi i sicrhau bod y cig yn dyner ac yn flasus. "

Gyda 44 o foch ar y daliad ar hyn o bryd, mae gan Lydia ei threfn bersonol ei hun bob dydd, ac mae'n mynd o dwlc i dwlc yn bwydo'r moch ac maen nhw'n ei chyfarch yn uchel gan rochian a gwichian.

“Mae fy niwrnod yn dechrau am 7 y bore pan fyddaf yn sicrhau bod gan y moch ddigon o ddŵr glân a digon o fwyd, ac yna ganol bore maen nhw’n cael ffrwythau a llysiau cyn imi fynd ati i’w glanhau. Maen nhw'n cael eu bwydo eto am 2.30 y pnawn, gan sicrhau felly bod ganddyn nhw amser i symud o gwmpas i dreulio eu bwyd cyn cysgu nos.”

“Wrth gwrs, mae rhai moch yn brafiach nag eraill ac rydych chi'n cael denu at rai moch yn fwy na’i gilydd, ond ar ddiwedd y dydd mae'r moch yn fusnes inni, ond pan fyddaf yn cau drws y trelar ac maen nhw’n ein gadael i'r lladd-dy, mae'n eich cael chi bob amser."

Wrth i'w busnes ddatblygu, dechreuodd Lydia gyflenwi porc i gigyddion a bwytai.  Yn ogystal â chyflenwi archebion bach o giât y fferm i bobl leol.

“Roedden ni’n arfer anfon un mochyn yr holl ffordd i fwyty yn Llundain, dwi ddim yn credu ei fod yn werth yr arian, ond roedden ni wrth ein boddau gyda’r syniad bod 'na fwyty yn Llundain gydag un o’n moch ni ar ei bwydlen ar adborth gan y bwyty oedd “parhewch i’w gyrru draw yma”.

Yn ystod pandemig Covid, newidiodd pethau i Lydia, wrth iddi baratoi am amser tawel adref gyda'i moch, newidiodd eu busnes dros nos.

“Newidiodd ein busnes yn llythrennol, cyn y pandemig roeddem yn cyflenwi 5% o’r porc yn lleol a 95% o foch cyfan i fwytai. Ers hynny, rydyn ni'n cyflenwi mwy o gig yn lleol sy'n wych.”

Yn dilyn y cyfnod clo, cafodd Lydia benwythnos agored yn Tyn y Ddol ym mis Gorffennaf, gyda'r syniad o ddangos eu busnes a gadael i bobl leol ac ymwelwyr weld y broses o’r ffarm i’r fforc.

“Roedd yn ddiwrnod gwych. Rwy'n hapus iawn dangos pobl o amgylch ein busnes ac rydych chi'n sylweddoli nad oes gan bobl syniad o fywyd fferm a'r broses fferm i’r fforc. Roedd gan bobl ddiddordeb mawr ac wrth gwrs mae'n ffordd wych o ennill busnes newydd.”

Mae Lydia bob amser yn meddwl am syniadau newydd i hybu gwerthiant porc, ac un o’r syniadau dros yr haf oedd bag porc penwythnos.

“Gan fod safleoedd gwersylla a charafanio i lawr y ffordd, dechreuais gynnig bagiau porc penwythnos yn cynnwys wyau, cig moch, selsig a 2 golwyth neu fyrgyrs porc ac roedd ymwelwyr a phobl leol wrth eu boddau, felly gobeithio y bydd yn boblogaidd unwaith eto'r flwyddyn nesaf.”

Mae Lydia wedi derbyn nifer o archebion am y blychau porc Nadoligaidd newydd sydd yn boblogaidd iawn gyda phobl leol.

“Mae pethau wedi newid, mae pobl yn dangos mwy o ddiddordeb heddiw yn be maen nhw’n ei fwyta a ble mae’r bwyd yn cael ei gynhyrchu. Mae pobl yn awyddus heddiw i fwyta cynnyrch lleol sy'n wych.”

“Mae’r adborth wedi bod yn anhygoel! Mae'n wych cael adborth cadarnhaol ac mae'n gwneud yr holl waith caled yn werth yr ymdrech, ac ni fyddwn yn newid fy ngyrfa cadw moch am y byd."