Yn dilyn llwyddiant Ymgyrch Glanhau Traethau Cymru Gyfan y llynedd, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn targedu afonydd, dyfrffyrdd ynghyd a thraethau ar draws Cymru mewn ymgyrch dros fis. Mewn partneriaeth â McDonald’s, cynhelir Glanhau Moroedd Cymru rhwng 20 Medi a 20 Hydref.
Bydd grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau ar draws Cymru yn cymryd rhan yn y mis o weithredu, gan drefnu digwyddiadau glanhau ar hyd a lled y wlad.
Mae sbwriel morol yn fygythiad cynyddol i’n hamgylchedd dyfrol ac arfordirol, gydag 80% yn dod o ffynonellau ar y tir. Gan fod sbwriel sy’n cael ei ganfod mewn afonydd, camlesi a dyfrffyrdd yn gwneud ei ffordd i’n moroedd yn y pen draw, nid yw problem sbwriel morol yn berthnasol i gymunedau arfordirol yn unig.
Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Rydyn ni i gyd yn gyfrifol am iechyd ein cefnforoedd, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n dod at ein gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i'n hamgylchedd morol. Ymunwch â ni i weithio mewn partneriaeth ar yr ymgyrch lanhau hon a dangos sut rydyn ni'n gofalu am Gymru a'r byd ehangach gyda'n gilydd.”
Cefnogir Glanhau Moroedd Cymru gan McDonald’s, gyda gwirfoddolwyr o fwytai ar hyd a lled y wlad yn bwriadu rhoi o’u hamser i lanhau eu traeth lleol.
Dywed Franchisee Ron Mounsey, sydd yn rhedeg ac yn berchen ar 16 o fwytai yn Ne Cymru:
“Rwyf wrth fy modd bod McDonald’s yn gysylltiedig â’r ymgyrch rhagorol hwn am yr ail flwyddyn. Fel busnes rydym yn deall y rôl bwysig sydd gennym yn gwneud Cymru’n lle glanach i bawb ac yn lle dymunol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn mynd i’r afael â sbwriel a rhan o hyn yw cefnogi’r ymgyrch hwn i lanhau ein traethau a’n dyfrffyrdd lleol. Edrychaf ymlaen at weld y gwahaniaeth y bydd y digwyddiadau ar hyd a lled y wlad yn ei wneud i’n hamgylchedd lleol.”
Mae Glanhau Moroedd Cymru wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
I gymryd rhan, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.