New Guide to Lamb and Nutrition

Mae prosiect ymchwil mawr wedi helpu Hybu Cig Cymru (HCC) i gasglu canllaw newydd am fuddion maethol cig oen yn rhan o ddeiet cytbwys.

Mae Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru HCC yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch sydd, dros gyfnod o bum mlynedd, sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn ceisio sicrhau bod Cig Oen Cymru yn cadw ei enw da ledled y byd trwy astudio hoffterau defnyddwyr a thrwy ddadansoddiad gwyddonol o amrywiaeth o samplau cig oen.

Fel rhan o'r ymchwil, gwnaed dadansoddiad o gyfansoddiad maethol Cig Oen Cymru - gan gynnwys o wahanol doriadau ac ŵyn sy'n cael eu bwydo ar wahanol ddeietau - i ddarganfod lefelau haearn, sinc ac asidau amino.

Mae'r canfyddiadau wedi helpu i lywio llyfryn newydd a fydd yn cefnogi'r prosiect, Maeth Cig Oen, a gyhoeddwyd gan HCC. Mae'r cyhoeddiad yn archwilio sut mae'r gwahanol fitaminau a mwynau mewn cig oen yn rhan o ddeiet cytbwys iach, yn rhoi cyngor ar ganllawiau bwyta'n iach y llywodraeth ar gyfer cig, a sut i goginio cig oen orau.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Eleri Thomas, “Mae ein gwaith ar Gig Oen Cymru a maeth drwy’r prosiect hyd yma wedi taflu goleuni newydd diddorol ar bresenoldeb asidau amino hanfodol a maetholion eraill mewn cig oen, a sut effaith gall ffactorau fel dietau ŵyn ar y fferm ei gael.

“Rwy’n falch fod y gwaith hwn wedi helpu i lywio’r cyhoeddiad hwn ar gyfer gynulleidfa ehangach. Mae Maeth Cig Oen yn unol â chanllawiau'r llywodraeth ac fe'i cynhyrchwyd gyda mewnbwn gan ddeietegydd cofrestredig, felly dylai fod o ddiddordeb i ddefnyddwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac athrawon fel ei gilydd.

“Mi fydd hefyd yn ased defnyddiol i waith y prosiect gyda’r paneli blasu defnyddwyr, a fydd yn helpu ein sector i ddeall pa ffactorau sy'n effeithio ar ansawdd bwyta cig oen, a sut y gallwn ddiwallu anghenion y siopwr modern orau.”

Mae’r llyfryn ar gael i’w lawrlwytho o wefan HCC yn https://meatpromotion.wales/cy/industry-projects/red-meat-development-programme/rmdp-cyhoeddiadau/welsh-lamb-eating-quality-project-publications 

Mae’r Prosiect  gan HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am Brosiect Ansawdd Cig Oen Cymru a’r Rhaglen Datblygu Cig Coch ar gael yma.

Crëwyd fideo i lansio’r llyfryn ac mae ar gael yma.