Mae’n wych gweld Canolfan Diwylliant newydd Conwy yn agor ei drysau i’r cyhoedd.
Derbyniodd Canolfan Ddiwylliant Conwy gyllid LEADER o’r Rhaglen Datblygu Gwledig ar gyfer sefydlu hygyrchedd tair ieithog, sy’n golygu y gall ymwelwyr dall a byddar gael gafael ar y dehongliad hefyd.
Dywedodd Helen Goddard, Swyddog Datblygu Treftadaeth sydd wedi bod yn arwain ar y prosiect,
“Mae prosiect yr hygyrchedd tair ieithog yn y Ganolfan Diwylliant wedi bod yn gyfle gwych i ni ddechrau agor y straeon yn ein casgliadau i gynulleidfa ehangach. Rydym yn ystyried hyn fel dechrau ymrwymiad tymor hir i wella mynediad i bawb i’n treftadaeth a rennir yma yng Nghonwy “.