Anglesey Food Technology Centre with Lesley Griffiths

Gwnaeth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, ymweld â’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni yn ddiweddar i glywed sut mae eu gwaith wedi helpu i greu cannoedd o swyddi newydd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan, sy’n gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau, o rai newydd eu sefydlu i gwmnïau cenedlaethol, yn rhan o Brosiect HELIX mewn partneriaeth â dwy ganolfan fwyd arall Cymru, y naill yng Nghaerdydd a’r llall yng Ngheredigion.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r UE o dan ofal Arloesi Bwyd Cymru. Mae’n cynnig amrywiaeth o arbenigeddau i helpu cwmnïau cymwys i dyfu a llwyddo trwy ddatblygu cynnyrch newydd arloesol. Mae’n helpu busnesau hefyd i fod yn fwy effeithlon ac i gynnal eu busnes mewn ffordd strategol.

Hyd yma, mae Prosiect HELIX wedi helpu i greu 428 o swyddi a diogelu 1749 o swyddi eraill ledled Cymru. Mae wedi helpu 257 o fusnesau newydd a gweld 1010 o gynhyrchion yn cael eu datblygu.

Mae’r Ganolfan yn allweddol i helpu cwmnïau i gynhyrchu ar raddfa beilot i ddenu manwerthwyr i’w prynu cyn buddsoddi mewn offer. Mae ganddi hefyd stafell dadansoddi synhwyraidd a labordy llawn offer.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, Lesley Griffiths:

Mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni wedi bod yn allweddol i’n helpu i greu cannoedd o swyddi newydd a diogelu llawer mwy yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru trwy Brosiect HELIX.

Y mae wedi helpu busnesau hefyd i drechu’r problemau a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19 trwy gynnig pob math o help iddyn nhw, gan gynnwys mentora busnesau trwy archwiliadau diogelwch bwyd o bell a’u helpu i fanteisio ar y tueddiadau diweddaraf ymhlith cwsmeriaid fel gwerthu ar-lein.

Mae’r Ganolfan, gyda’r rheini yng Nghaerdydd a Cheredigion, yn chware rhan bwysig wrth gefnogi’r sector ac rwy’n falch bod arian gan Lywodraeth Cymru a’r UE yn ei helpu i weithio gyda busnesau yng Nghymru i wireddu eu potensial a llwyddo.

Dywedodd Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd Amaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai:

Mae’n bleser cael croesawu’r Gweinidog yma iddi gael gweld drosti ei hun y cyfleusterau ardderchog sydd gennym yn y Ganolfan Technoleg Bwyd i helpu busnesau bwyd a diod hen a newydd yng Nghymru i dyfu.

Mae llwyddiant prosiect HELIX yn beth gwych i’w weld, wrth i dimau Arloesi Bwyd Cymru barhau i weithio’n ofnadwy o galed i roi cymorth technegol arbenigol i’r sector bwyd a diod ym mhob rhan o Gymru.

Mae’r llwyddiant hwn wedi bod yn bwysig o safbwynt economaidd i Gymru a dwi’n bersonol wedi cael boddhad mawr o weld busnesau’n tyfu ac yn datblygu gan wybod eu bod yn cael effaith bositif ar y gadwyn gyflenwi.

Mae cynlluniau eraill ar droed i helpu’r sector bwyd yng Nghymru ac mae’r gwaith i ddatblygu Hyb Economi Wledig yng Nglynllifon, fel rhan o Fargen Dwf y Gogledd, yn mynd yn ei flaen.  Mae’n brosiect cyffrous a’r gobaith yw y bydd yn rhoi hwb i’r economi wledig trwy ddod yn ganolfan trosglwyddo gwybodaeth, safle graddio bwyd ac uned meithrin busnesau gan roi hwb pellach i arloesedd, busnesau newydd ac arallgyfeirio ar ffermydd.