Bydd un o draethau mwyaf poblogaidd Abertawe'n dod yn lle mwy croesawgar fyth i ymwelwyr y mae eu symudedd yn gyfyngedig iawn.
Bydd Bae Caswell yn elwa cyn bo hir o gyfleusterau newydd er mwyn rhoi mynediad i fwy o bobl i'w atyniadau naturiol.
Ei gyfleusterau Changing Places newydd fydd y cyntaf o'u bath ym mhenrhyn Gŵyr. Fe'u dyluniwyd yn benodol i bobl ag anableddau corfforol neu ddysgu dwys yn ogystal ag anableddau eraill sy'n cyfyngu ar symudedd yn ddifrifol.
Mae'r newyddbeth hwn - gan Gyngor Abertawe - yn adeiladu ar newyddion da diweddar arall oherwydd dyfarnwyd statws Baner Las 2019 i draethau Caswell, Langland a Phorth Einon yn ddiweddar.
Mae Gwobr y Faner Las wedi dod yn eco-label clodwiw y mae miliynau o bobl ledled y byd yn ymddiried ynddo. Bydd eleni'n fwy arbennig fyth oherwydd bod 2019 hefyd yn nodi hanner canrif ers i Abertawe dderbyn statws dinas.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd y gwelliannau sydd ar ddod i Fae Caswell i'w croesawu, yn enwedig i'r rhai ag anabledd.
"Mae teclyn codi wedi'i osod ar nenfwd uned hunangynhwysol Changing Places, a cheir mainc newid, cawod a thoiled fel y gellir newid ac ymolchi mewn amgylchedd glân a diogel.
"Bydd cadeiriau olwyn sy'n arnofio ar gael ar draeth Caswell i alluogi ymwelwyr anabl i fynd i mewn i'r dŵr."
Ariennir y gwelliannau hyn yn rhannol gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020. Ariennir hyn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae'r cyngor yn gweithio gyda Surfability UK a busnesau twristiaeth lleol i gyflwyno'r prosiect hwn.
Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Mae gan y cyngor ymrwymiad hirsefydlog i gyflwyno cyfleusterau Changing Places ac mae'r ymdrech ar y cyd hon yn enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth rhwng timau amrywiol y cyngor sy'n rhan o'r cynllun a busnesau Caswell er mwyn ychwanegu ased cymunedol newydd.. Mae eisoes yn un o'r traethau mwyaf hygyrch - yn wych ar gyfer teuluoedd a syrffio.
"Mae traethau Gŵyr yn hanfodol bwysig i'n heconomi ymwelwyr; maent yn un o'r prif resymau y daw pobl yma.
"Mae buddsoddiad blynyddol yn helpu i sicrhau y gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau traethau glân, diogel a hardd drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn falch o barhau i hedfan y baneri glas hyn."
Cadwodd marina Abertawe ei statws fel un o'r ychydig farinas Baner Las yng Nghymru eleni.
Derbyniodd Bae Bracelet y Wobr Arfordir Glas y mae mawr alw amdani. Mae'r wobr hon yn cydnabod trysorau cudd a chanddynt ansawdd dŵr rhagorol ac amgylchedd heb ei ddifetha ond nad oes ganddynt yr isadeiledd a'r rheolaeth ddwys sydd fel arfer yn gysylltiedig â chyrchfannau glan môr traddodiadol.
Cymerwch gip ar ein gwedudalen traethau benodedig i gael rhagor o wybodaeth am ein detholiad gwych o draethau a baeau o gwmpas Bae Abertawe.