- Gwahoddiad Gwebinar -
Mae Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru newydd lansio cyfres o gamau i gefnogi'r sector bwyd a diod yng Nghymru wrth inni adfer o effaith pandemig Covid-19.
Mae'r pandemig wedi cael effaith sydyn a sylweddol ar bron pob busnes a chadwyn gyflenwi yn y sector bwyd a diod beth bynnag yw eu maint. Mae her enfawr i oroesiad busnesau unigol. Mae effaith y pandemig yn bygwth llwyddiant ein sector.
Y camau hyn fydd ein ffocws am y tymor byr a byddant yn targedu cefnogaeth i'r sector dros y misoedd nesaf, tan yr haf nesaf. Am y tro y flaenoriaeth yw goroesi ond mae'n rhaid i ni hefyd helpu adferiad y sector.
Cewch hyd ir cynllun yma: Cynllun adfer Covid-19
Bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn cynnal gweminar i drafod y cynllun am 16:30yh, ddydd Mercher, 5 Awst.
I archebu'ch lle e-bostiwch Bwyd-Food@gov.wales. Bydd y gweminar yn rhedeg ar lwyfan Timau Microsoft ac mae wedi'i gyfyngu i 250.