Flier

Mae cyfansoddwyr caneuon a cherddorion talentog ‘Canolbarth Cymru’ yn cael eu gwahodd i gyflwyno caneuon a cherddoriaeth wreiddiol a gellid eu defnyddio fel trac sain ar gyfer ymgyrch farchnata integredig newydd sy’n hyrwyddo’r rhanbarth fel cyrchfan fodern i ymwelwyr.

Mae MWT Cymru, sefydliad annibynnol sy'n cynrychioli tua 600 o fusnesau twristiaeth a lletygarwch ar draws Powys, Ceredigion a De Gwynedd, eisiau i ganeuon a cherddoriaeth gael eu cyflwyno ar-lein ar mwtcymru.co.uk/mymusic

Bydd y gân neu’r gerddoriaeth a ddewiswyd, yn cael eu defnyddio yn yr ymgyrch, #CanolbarthCymruWirioneddol, sydd â’r nod o ddenu mwy o millennials - pobl 27-40 oed - sy’n byw o fewn tair i bedair awr o daith i’r rhanbarth.

Gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth am Ganolbarth Cymru a newid canfyddiadau hen ffasiwn, bydd yr ymgyrch yn cynnwys targedau hysbysebu ar Teledu ‘Sky’

“Rhaid i’r caneuon a’r gerddoriaeth fod yn waith gwreiddiol y cyfansoddwr caneuon neu gerddor a rhaid iddynt roi caniatâd i’w gwaith gael ei ddefnyddio ar sawl sianel fel rhan o’r ymgyrch,”

Meddai Zoe Hawkins, rheolwr prosiectau a gweithrediadau digidol MWT Cymru.

“Dim ond cyflwyniadau gan gyfansoddwyr caneuon a cherddorion yng Nghanolbarth Cymru yr ydym am dderbyn oherwydd bod hynny'n rhan allweddol o'r ymgyrch #CanolbarthCymruWirioneddol

Defnyddir y gwaith a ddewiswyd i hyrwyddo Canolbarth Cymru a bydd yr artist yn cael ei gredydu â chysylltiadau â'r llwyfannau o'u dewis.

 “Bydd hwn yn gyfle gwych i artist/artistiaid Canolbarth Cymru gael clywed eu cerddoriaeth. Bydd yr ymgyrch gyntaf yn cael ei chynnal ym Mryste / Henffordd ac fe fydd yn cael ei ategu gan ymgyrch hysbysebu cyfryngau cymdeithasol.

Mae yna dalent gwych yng Nghanolbarth Cymru ac fe’ rydym yn edrych ymlaen yn fawr at roi cyfle i artist / band lleol glywed eu cerddoriaeth i gynulleidfa ehangach tra hefyd yn helpu i hyrwyddo Canolbarth Cymru yn gyrchfan fodern a bywiog fel y mae”

Bydd yr ymgyrch #CanolbarthCymruWirioneddol yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol, cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, hysbysebu digidol, canllaw cyrchfan cyfryngau cymysg newydd, gweithdai cenhedlaeth nesaf a chyhoeddusrwydd.

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.