Lambs

Mae canlyniadau cyntaf dadansoddiad o Gig Oen Cymru PGI wedi dangos fod cig o ŵyn a gafodd eu magu ar borfa yn cynnwys cyfraddau uwch o asidau amino sy’n seiliedig ar brotein a’i fod hefyd yn fwy maethlon. 

Fel rhan o brofion ail flwyddyn prosiect ymchwil pwysig sy’n edrych ar ansawdd bwyta Cig Oen Cymru, dangosodd y dadansoddiad gwyddonol diweddaraf gyfraddau uchel o asidau amino sy'n ffurfio proteinau, brasterau buddiol a mwynau.

Mae Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru yn ystyried yr hyn sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth mewn ansawdd cig.  Mae’n rhan o’r  Rhaglen Datblygu Cig Coch sydd, dros gyfnod o bum mlynedd, yn ceisio helpu ffermwyr Cymru i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth gynyddol yn y farchnad fyd-eang. Arweinir y prosiect gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Gwnaed dadansoddiad o gig 24 o ŵyn a fagwyd ar ddau ddiet gwahanol, sef un â phorfa yn unig, a'r llall â dwysfwyd. Dadansoddwyd y cig ar gyfer protein, asidau amino a chynnwys maethol arall.

Dr Eleri Thomas, HCC Meat Quality Executive

Dywedodd Dr. Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Ansawdd Cig HCC: “Dangosodd y dadansoddiad fod gan yr ŵyn a fagwyd ar ddietau porfa lefelau uwch o asidau amino hanfodol mewn cymhariaeth ag ŵyn a fagwyd ar ddiet dwysfwyd. Mae presenoldeb asidau amino hanfodol yn bwysig, oherwydd dim ond o fwyd y gall pobl dderbyn maetholion o'r fath. Mae asidau amino hanfodol wrth wraidd llawer o brosesau hanfodol y corff gan gynnwys datblygu ac atgyweirio cyhyrau, a swyddogaeth imiwnedd."

“Dangosodd y canlyniadau hefyd fod gan y samplau a gymerwyd o ŵyn a fagwyd ar borfa lefelau sylweddol uwch o bum asid amino iach. Mae hyn yn newyddion da i ddefnyddwyr a hefyd i ffermwyr sy'n pesgi eu hŵyn ar laswellt, gan fod porfa yn ddiet effeithlon a chynaliadwy."

Dim ond un rhan o'r profion eleni yw'r dadansoddiad maethol o gig oen. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd y Prosiect yn recriwtio 480 o ddefnyddwyr mewn tair dinas ledled y DU i flasu a sgorio'r cig oen am ei sawr, breuder, suddlonder a blas.

Caiff y canfyddiadau bob blwyddyn o’r dadansoddiad maethol a chanlyniadau’r blasu eu defnyddio i hysbysu cadwyn gyflenwi cig coch Cymru o’r hyn sy’n digwydd wrth fagu ŵyn a phrosesu eu cig a allai ddylanwadu ar y prynwr. Bydd yr adborth gwerthfawr hwn gan ddefnyddwyr yn galluogi’r sector i gynhyrchu cig sy’n rhoi gwell mwynhad wrth ei fwyta i’r defnyddiwr modern.

Mae’r Prosiect  gan HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.