Yr wythnos hon, mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi lansiad y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn dilyn Archwiliad Dwfn i Goed a Phren.
Bydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir yn darparu cyllid i greu coetir newydd ac i wella ac ehangu coetir sy'n bodoli eisoes.
Mae'r cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau tan ddiwedd mis Awst a bydd yn darparu grantiau rhwng £10,000 a £250,000 i ariannu'r gwaith o greu a gwella coetiroedd sy'n eiddo cyhoeddus a phreifat gyda'r potensial i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru.
Gall yr arian gynnwys eitemau fel coed a phlanhigion; gweithgareddau i gynnwys cymunedau lleol yn y coetir; creu a gwella mynediad i'r cyhoedd, yn amrywio o lwybrau troed/llwybrau natur hygyrch.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gofyn cwestiynau am y Grant Buddsoddi mewn Coetir drwy ymuno â chyflwyniad byw ddydd Mercher nesaf 21 Gorffennaf am 10am. Dewch yn ôl a cliciwch yma i ymuno â’r sesiwn byw a rhowch y ddolen yn eich calendr.
Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yn y Nodiadau Cyfarwyddyd TWIG.